Mae dwy Aelod Cynulliad, a gafodd eu hethol i’r Cynulliad gwreiddiol yn 1999, wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll yn etholiad 2016.

Mae Edwina Hart a Gwenda Thomas ill dwy yn ACau Llafur – y naill tros Gwyr a’r llall tros Gastell Nedd – ac mae nhw’n bwriadu ymddeol y flwyddyn nesa’.

“Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael cynrychioli pobol Gwyr, yr etholaeth lle cefais fy ngeni,” meddai Edwina Hart. “Rwy’n falch fy mod hefyd, yn ystod y 16 mlynedd diwethaf, wedi gallu cefnogi cymaint o fudiadau lleol.”

Cyfle cyfartal

Tra bo Edwina Hart wedi bod yn gyfrifol am Economi, mae Gwenda Thomas wedi canolbwyntio ar gyfle cyfartal a gwasanaethau cymdeithasol yn ystod ei chyfnod ym Mae Caerdydd.

“Wy’ isie diolch am y gefnogaeth wy’ wedi’i chael,” meddai Gwenda Thomas wrth wneud ei chyhoeddiad. “Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o siwrne wleidyddol Cymru.”