Peter Robinson, arweinydd plaid y DUP a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon
Mae Peter Robinson, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, wedi cael ei gludo i’r ysbyty fore heddiw.

Fe gafodd ei ddanfon i’r ysbyty i gael mwy o brofion toc wedi 9 o’r gloch fore heddiw.

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid y Democratiaid Unoliaethol (DUP), roedd Peter Robinson yn teimlo’n sâl ben bore heddiw, a dyna pam iddo gael ei gludo i’r ysbyty.

Y gred ydi fod arweinydd y DUP yn derbyn triniaeth am anhwylder ar y galon.