Tywysog Charles
Fe fydd y Tywysog Charles yn cwrdd â llywydd Sinn Fein Gerry Adams heddiw wrth iddo ddechrau ei ymweliad swyddogol ag Iwerddon.

Bydd hefyd yn ymweld â’r safle yn Mullaghmore, Co Sligo lle cafodd ei hen ewythr, yr Arglwydd Louis Mountbatten, ei ladd gan yr IRA yn 1979.

Mae Sinn Fein wedi cadarnhau y bydd Gerry Adams a Martin McGuinness yn cwrdd â’r Tywysog yn ystod ei ymweliad.

Dywedodd cadeirydd y blaid Declan Kearney eu bod wedi cytuno i gwrdd â’r Tywysog er mwyn “hybu’r broses o geisio datrys anghyfiawnderau’r gorffennol.”

Mae’r cyfarfod yn cael ei weld fel y cam nesaf yn y broses o wella’r berthynas a’r cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon.

Dyma’r tro cyntaf i’r Tywysog ymweld ag Iwerddon ers 13 mlynedd.