Nick Clegg yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd ei blaid.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, cyfaddefodd Clegg fod y canlyniadau wedi bod llawer iawn mwy siomedig na’r disgwyl.
Dim ond wyth sedd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol bellach – i lawr o 56 – ac un o’r rheiny yng Ngheredigion, lle’r oedd Mark Williams yn fuddugol.
Roedd Vince Cable, Danny Alexander ac Ed Davey ymhlith y rhai a gollodd eu seddi.
Dywedodd Clegg, sydd wedi’i ail-ethol yn Aelod Seneddol dros Sheffield Hallam, mai braint oedd gwasanaethu ei wlad.
“Ro’n i bob amser yn disgwyl i’r etholiad hwn fod yn anodd eithriadol i’r Democratiaid Rhyddfrydol o ystyried y cyfrifoldebau trymion y bu’n rhaid i ni eu hysgwyddo yn y llywodraeth o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
“Ond yn amlwg mae’r canlyniadau wedi bod yn fwy amhesuradwy o syfrdanol ac angharedig nag y gallwn fod wedi ofni.
“Am hynny, wrth gwrs, rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb.”
‘Gwir arweinyddiaeth’
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams:
“Mae Nick Clegg yn ddyn gonest sydd wedi helpu i drawsnewid gwleidyddiaeth ym Mhrydain.
“Yn 2010, fe wnaeth ddangos gwir arweinyddiaeth ar adeg ble roedd y wlad ei angen fwyaf. Roedd ei benderfyniad i ffurfio llywodraeth glymblaid yn gywir, ac mae’r wladwriaeth yn le mwy rhyddfrydig o’r herwydd.
“Dim ond un frwydr yw hon allan o nifer, ac mae fy mhlaid wedi bod yma o’r blaen. Rydym yn blaid o wytnwch mawr ac fe fyddwn yn dychwelyd yn ôl i frwydro am yr hyn rydym yn ei gredu ynddo.”