Nick Clegg
Mae’n ymddangos bod arweinyddiaeth Nick Clegg fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dirwyn i ben ar ôl noson drychinebus i’r blaid.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y byddai’n gwneud datganiad ar ôl cwrdd ag aelodau eraill ei blaid yn San Steffan y bore ma.

Mae aelodau blaenllaw’r blaid wedi colli eu seddi yn Nhŷ’r Cyffredin gan gynnwys gweinidogion y Cabinet Danny Alexander, Vince Cable ac Ed Davey.

Fe lwyddodd Nick Clegg i ddal ei afael ar ei sedd yn Sheffield Hallam ond mae wedi cydnabod ei bod wedi bod yn “noson greulon” i’w blaid gydag oblygiadau i’r wlad a’i sefyllfa ef ei hun.

Ymhlith y rhai sy’n cael eu crybwyll i olynu Nick Clegg mae Tim Farron, Norman Lamb ac Alistair Carmichael.