Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn un o gyfres o wleidyddion sydd wedi ymddiheuro wedi i gannoedd o gleifion o’r Alban yn y 1970au a’r 1980au gael eu heintio gyda Hepatitis C a HIV.

Daw wrth iddo gyhoeddi £25 miliwn yn ychwanegol i wella’r gefnogaeth i’r cleifion gafodd eu heffeithio.

Fe wnaeth ymchwiliad dan arweiniad yr Arglwydd Penrose ddisgrifio’r helynt fel “hunllef” gan argymell bod prawf gwaed yn cael ei roi i bawb yn yr Alban gafodd drawsblaniad gwaed cyn 1991.

Cefndir

Roedd cannoedd o bobl yn yr Alban, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gleifion oedd yn dioddef o hemoffilia, wedi derbyn gwaed oedd wedi’i lygru gan y Gwasanaeth Iechyd yn y 1970au a’r 1980au.

Yn dilyn galwadau gan grwpiau ymgyrchu, cafodd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban i ddarganfod beth aeth o’i le a pha wersi gellir eu dysgu.

Dywedodd yr ymchwiliad y dylai mwy o ymdrech fod wedi cael ei wneud i sgrinio gwaed a rhoddwyr am hepatitis C yn y 90au cynnar ac na ddylai carcharorion fod wedi cael rhoi gwaed yr adeg honno.

“I bob un o’r bobol hynny, mi faswn yn hoffi ymddiheuro ar ran y Llywodraeth am rywbeth na ddylai fod wedi digwydd,” meddai David Cameron wrth ymddiheuro ar ran Llywodraeth San Steffan.

Fe ymddiheurodd Gweinidog Iechyd yr Alban, Shona Robison, hefyd.