Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn pendroni a allai’r pleidiau bach gydweithio i geisio sicrhau eu lle yn y dadleuon …

Mae’r ddadl ynglŷn â’r ddadl wedi bod yn rhygnu ‘mlaen yr wythnos hon, wrth i David Cameron ailddarganfod ei bryder am faterion amgylcheddol.

Cyfeirio ydw i wrth gwrs at y dadleuon teledu cyn etholiad cyffredinol mis Mai, a datganiad y Prif Weinidog na fydd o’n cymryd rhan os nad yw’r Blaid Werdd yn cael bod yno hefyd.

Chwarae teg i Mr Cameron am ddangos y fath gonsyrn i blaid Natalie Bennett, er bod pawb wrth gwrs yn gallu gweld nad haelioni yw’r prif reswm y mae wedi mynnu’r fath beth.

Ond mae’r dadlau’r wythnos hon wedi dangos ei bod hi bron yn amhosib plesio pawb.

Her i’r lleill

Mae’n hawdd gweld pam bod Cameron eisiau’r Blaid Werdd i fod yn y dadleuon teledu (er bod lle i gredu wrth gwrs mai esgus i beidio â chymryd rhan yw hyn ganddo).

Croestoriad bychan iawn o bobl dw i’n dychmygu sydd yn ceisio penderfynu rhwng y Ceidwadwyr a’r Gwyrddion pan ddaw at yr etholiad – dyw Cameron ddim yn debygol o golli llawer o bleidleisiau i’r rhain.

Ar y llaw arall mae’r pleidiau eraill i gyd mewn peryg o wneud – dyna pam eu bod nhw’n cuddio y tu ôl i reolau Ofcom sydd ddim ar hyn o bryd yn ystyried y Blaid Werdd fel ‘prif blaid’.

Llafur am eu bod nhw’n ofni colli pleidleisiau pobl ar yr adain chwith sydd yn poeni nad yw plaid Ed Miliband yn gwneud digon i wrthwynebu toriadau’r llywodraeth bresennol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol, oherwydd ei bod hi’n bosib y bydd eu cefnogaeth nhw yn crebachu hyd yn oed yn fwy petai’r blaid ‘brotest’ yma o’r chwith yn cael rhagor o sylw.

A UKIP gan eu bod nhw – er bron yn hollol wahanol yn wleidyddol i’r Gwyrddion – wedi sefydlu eu hunain fel plaid ‘brotest’ newydd yr etholiad yma, a ddim am i neb sathru ar eu traed.

Eironi

Yr eironi yw bod yr holl sylw yma ar y ffaith fod y Gwyrddion yn y dadleuon teledu i’w weld wedi gwneud lles iddyn nhw beth bynnag.

Ers wythnosau nawr mae rhai polau piniwn wedi dangos bod eu cefnogaeth nhw yn hafal, hyd yn oed yn uwch, na’r Democratiaid Rhyddfrydol ar adegau.

Yn ôl y blaid, mae eu haelodaeth nhw wedi cynyddu 2,000 yn y 24 awr ddiwethaf ac maen nhw nawr yn honni fod ganddyn nhw 42,500 o aelodau – mwy na UKIP, a bron cymaint â phlaid Nick Clegg.

Fe gawson nhw llai na 1% o’r bleidlais yn etholiad cyffredinol 2010, ond fe ddaethon nhw’n bedwerydd yn etholiadau Ewrop 2014 gyda 6.9% o’r bleidlais.

Plaid gymharol fechan o hyd, does dim dwywaith am hynny, ond hynny’n rhannol oherwydd nad yw hi tan nawr wedi cael y sylw mae’r tair prif blaid, a UKIP yn ddiweddar, wedi bod yn ei gael.

Ac yn ôl y pôl diweddaraf gan YouGov heddiw mae 72% o bobl bellach eisiau gweld nhw’n rhan o ddadleuon teledu etholiad cyffredinol 2015.

Efallai bod Cameron yn cefnogi achos y Blaid Werdd am resymau hunanol, ond mae gan y Gwyrddion yn sicr lle i gredu y dylen nhw fod yn cael eu hystyried.

Plaid a’r SNP

Ble mae hyn yn gadael Plaid Cymru a’r SNP? Wedi’r cyfan, mae gan yr SNP ddwywaith gymaint o  aelodau ag sydd gan y Gwyrddion a chwe gwaith y nifer o ASau.

Nhw yw’r blaid fwyaf yn yr Alban o bell ffordd ar hyn o bryd yn ôl y polau piniwn, ac mae’n bosib iawn y bydd ganddyn nhw ddwsinau o ASau allai helpu ffurfio llywodraeth ar ôl yr etholiad.

Mae Plaid Cymru’n un o brif bleidiau Cymru wrth gwrs, ond hyd yn oed wedi dweud hynny mae’n bosib mai brwydro yn erbyn UKIP am y pedwerydd safle fyddan nhw ym mis Mai.

Ac er bod y ddwy blaid yn bwysig iawn yn eu gwledydd nhw, rhaid cofio mai dadleuon teledu Prydeinig fydd rhai eleni.

Byddai negeseuon Leanne Wood a Nicola Sturgeon ddim yn berthnasol i dros 90% o’r gynulleidfa dim ots pa mor apelgar (neu ddim) fyddan nhw, oherwydd bod dim modd rhoi eich croes yn y bocs i Plaid a’r SNP yn Lloegr.

Ac felly maen nhw mewn safle gwannach pan mae’n dod at ddadlau eu hachos.

Ateb arall?

Oes ‘na ffordd arall i’r cenedlaetholwyr ei gwneud hi? Iawn, mi gafwyd dadleuon ar wahân i’r un cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban yn 2010, ond y gwir yw mai’r prif rai wyliodd y rhan fwyaf o bobl.

Felly beth am i’r pleidiau cenedlaetholgar ystyried dod i gytundeb gyda’r Gwyrddion?

Gallan nhw gefnogi achos y Blaid Werdd i gael ei chynnwys, cyn belled a bod ei harweinydd Natalie Bennett yn sefyll yno i gynrychioli safbwyntiau Plaid a’r SNP hefyd.

Mae’r pleidiau wedi gweithio gyda’i gilydd yn y gorffennol, wrth ddewis ymgeiswyr ar y cyd ac yn ystod refferendwm yr Alban, ac maen nhw’n bwriadu parhau i wneud hynny ar ôl yr etholiad.

Pam ddim gwneud felly ar gyfer y dadleuon teledu?

Byddai o bosib yn un datrysiad o ran ochr y darlledwyr, sydd yn poeni y byddai caniatáu i’r Gwyrddion gymryd rhan olygu her gyfreithiol gan yr SNP.

Byddai’n cael gwared ar unrhyw esgus gan Cameron i beidio â chymryd rhan.

Byddai Plaid a’r SNP o leiaf yn sicrhau rhyw ffordd o gyflwyno eu neges ar y llwyfan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wylio.

Ond ar y llaw arall, mae’n annhebygol iawn y byddai Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hapus â threfniant o’r fath.

Ac os nad ydyn nhw’n cael eu cynnal, wel, mi fyddai hynny’n debygol o siomi llawer o’r gwylwyr – a phleidleiswyr.

Fel dwedais i, bydd hi bron yn amhosib plesio pawb.