Tony Blair
Mae 90,000 o bobol wedi arwyddo deiseb sy’n galw am ddiddymu  gwobr gafodd ei rhoi i Tony Blair am ei waith i leddfu tlodi yn Affrica.

Fe roddwyd y wobr i’r cyn-brif weinidog yn seremoni’r sefydliad Achub y Plant UDA yn Efrog Newydd yr wythnos diwethaf.

Mae’r ddeiseb yn honni bod penderfyniad Tony Blair i fynd i ryfel yn Irac yn 2003 yn parhau i fod yn gysgod dros ei waith yn Affrica.

Mae Swyddfa Tony Blair wedi dweud bod y sylwadau yn “annheg ac anghytbwys”, gan ychwanegu bod y gwrthwynebiad yn “tanseilio enw da Achub y Plant”.