Dim cynlwyn meddai Yvette Cooper (Llun o'i gwefan)
Mae dau o brif aelodau cabinet Ed Miliband wedi gwadu eu bod yn cynllunio ar gyfer ei ymddiswyddiad.

Yn ôl adroddiad ym mhapur y Times, roedd Yvette Cooper ac Andy Burnham wedi dod i gytundeb na fydden nhw’n herio’i gilydd ar gyfer yr arweinyddiaeth, ond yn hytrach y byddai’r ddau’n gwneud “cynnig ar y cyd”.

Mae’r ddau wleidydd wedi mynnu’n chwyrn nad oes sail i’r honiadau, wrth i gwestiynau am ddyfodol arweinydd y blaid Lafur barhau lai na chwe mis nes yr etholiad.

‘Nonsens’

Fe wnaed yr honiadau ar ôl i Miliband orfod gwadu bod cynllun ar droed ymysg rhai aelodau o feinciau cefn y blaid Lafur i alw arno i ymddiswyddo.

A’r bore yma, mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi mynnu bod y dyfalu’n enghraifft o stori o “swigen San Steffan”.

Yn ôl pôl YouGov ar gyfer gorsaf radio LBC, roedd 49% o bobol yn credu y byddai gan Lafur well siawns o ennill yr etholiad nesa’ petai Ed Miliband yn mynd.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Yvette Cooper nad oedd “dim sail o gwbl” i’r honiadau ei bod hi ac Andy Burnham wedi trafod dyfodol y blaid ar ôl Ed Miliband.

Yn ôl llefarydd ar ran Andy Burnham, does dim “trafodaethau o’r fath” wedi digwydd.

‘Nonsens’ meddai Miliband

Ddoe fe fynnodd Ed Miliband ei hun mai “nonsens” oedd yr adroddiadau bod rhai o’i Aelodau Seneddol ei hun wedi galw arno i fynd.

“Dw i ddim yn derbyn bod y mater hwn yn codi,” meddai. “Wir nawr, mae hyn yn nonsens.

“Mae ein ffocws ni a’r Blaid Lafur ar y wlad ac fe fydd hi’n aros felly oherwydd mae ein gwlad yn wynebu materion sylweddol.”