Catrin Williams
Catrin Williams sydd wedi bod yn gwylio’r ras annibyniaeth yn agosáu…

Wrth i 18 Medi agosáu, does dim modd dianc rhag yr hyn sydd yn digwydd yn yr Alban, yn enwedig ar ôl i ganlyniad pôl piniwn gan YouGov ‘chydig dros wythnos yn ôl beri gofid a dychryn San Steffan.

Dros y misoedd dwytha’, mae’r bwlch rhwng ‘Ie’ a ‘Na’ wedi bod yn lleihau yn raddol – ond wastad gyda ‘Na’ ar y blaen. Ond, am y tro cynta’ fe ddangosodd pôl piniwn YouGov fod ‘Ie’ ar y blaen o drwch blewyn.

Diddorol iawn oedd gweld ymateb y cyfryngau, y pleidiau gwleidyddol a San Steffan i hyn. ‘Ten days to save the UK’ oedd pennawd yr Independent, gyda phenawdau tebyg ym mhob papur newydd, a phobol yn dechrau galw ar y Frenhines i ymyrryd!

Er i’r frenhines gyhoeddi ar y pryd y byddai’n anaddas iddi hi ddangos tuedd wleidyddol, mi ddywedodd hi’r diwrnod o’r blaen fod angen i’r Alban “feddwl yn ofalus” am ei dyfodol – hwb arall i’r ymgyrch Na!

Devo Max – y bwriad gwreiddiol a wrthodwyd?

Cafodd y cynnig o ragor o bwerau datganoli ‘devo max’ i’r Alban ei daflu o gwmpas gan San Steffan yr wythnos diwethaf.

Onid dyma oedd Alex Salmond wedi gofyn amdano ynghynt, ac wedi bod yn fodlon cydweithio i’w sicrhau? A hynny yn cael ei wrthod gan San Steffan?

Felly be sydd yn gneud i bethau fod mor wahanol y tro yma? Yndi, efallai ei fod yn ‘argyfwng’ i’r Llywodraeth Brydeinig rŵan, wedi iddynt sylweddoli fod cryn ddiddordeb a chefnogaeth i annibyniaeth.

Ond tydi hynny ddim yn golygu fod y glymblaid am gytuno ar gynllun datganoli o’r fath mor fyr rybudd? Y ’run ydi’r ddadl fewnol!

Ed yn colli cefnogaeth…

Mae Ed Miliband ar y llaw arall yn gweld hyn fel cyfle i geisio ennill mwy o gefnogaeth i Lafur – gan ddadlau y byddai Llywodraeth Lafur yn cynrychioli’r Alban yn well.

Ond ymateb llugoer gafodd yn yr Alban, hyd yn oed gan lawer o’i gyn-gefnogwyr a oedd yn grediniol ar y cychwyn y byddent yn pleidleisio yn erbyn torri i ffwrdd.

Aeth un Albanwr mor bell a dweud y dylai fod gan Ed Miliband gywilydd dod i’r Alban, gan ddadlau nad oes modd i’r un Llywodraeth Brydeinig gynrychioli wir anghenion yr Alban.

Bu i Gordon Brown geisio dylanwadu ar yr Alban yn gynnar iawn yn y trafodaethau. Dechrau’r flwyddyn roedd yn sôn fod angen datganoli ychwaneg o bwerau i’r Alban, a gwrthod annibyniaeth.

Ond, dal i ddisgwyl mae pawb am y cynlluniau yma – oherwydd bod y Blaid Lafur ei hun methu cytuno!

Yr un hen stori …

Felly mai’n hollol hurt i feddwl fod yr holl addewidion yma gan San Steffan o unrhyw werth.

Addewidion gwag ydyn nhw yn unig, wrth i San Steffan chwilio am rywbeth i geisio sicrhau fod yr Undeb yn aros gyda’i gilydd.

Ac fel mae Sturgeon wedi’i ddeud, mae’n wirion bost fod San Steffan yn credu fod pobol yr Alban mor anwybodus ac yn barod i lyncu celwyddau ac addewidion diddim o’r canol.

Wrth wrando ar y newyddion dros yr wythnos ddiwethaf o strydoedd Gaeredin, pwysleisiodd y cyhoedd fod hwn wedi cael ei ddweud o’r blaen – a pam y dylwn nhw wrando y tro yma?

Roedd carfan arall hefyd yn dadlau os dewis rhwng ‘devo max’ ac annibyniaeth, yna ‘devo max’ fyddai’r dewis – ond sut all bobol gytuno ar hyn pan does ddim cynlluniau cadarn mewn lle?

Propaganda Prydeinig

‘Dwi wir yn gobeithio fod pobol yr Alban ddim am gael ei llyncu mewn i’r propaganda Prydeinig yma – gyda’r BBC yn fwy euog na neb yn ei newyddion.

Mae hen ffefryna’ fel y Daily Mail hefyd wedi bod yn orlawn o storiau sydd yn codi ofn ac yn ei wneud i ymddangos fel petai’r byd yn dod i ben os byddai pleidlais gadarnhaol yn digwydd.

Gobaith i Gymru?

Cwestiwn arall sydd yn codi yw, sut a pham fod Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn meddwl fod Cymru am ddioddef yn dilyn pleidlais o blaid annibyniaeth yn yr Alban? Oni fyddai Cymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer rhagor o ddatganoli?

Byddai bron yn amhosib cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn dilyn annibyniaeth yr Alban, sydd yn golygu y byddai sylw Llafur (gobeithio) yn cael ei rhoi i Gymru – ac felly i ddatganoli?

Mae cefnogaeth ar gyfer datganoli wedi cynyddu yng Nghymru dros y blynyddoedd – does dim ond rhaid i ni edrych ar sut mae Cymru wedi datblygu ers sefydlu’r Cynulliad er mwyn gweld hynny, ac felly fe fyddai’n rhaid i’r Blaid Lafur ddeffro i hynny, ac ymateb i anghenion y Cymry.

Polau piniwn erbyn hyn….

Gall polau piniwn gael cryn effaith ar sut y mae pobol yn pleidleisio – oherwydd y tuedd ydi i rai pobol bleidleisio am bwy maen nhw yn meddwl sydd y debygol o ennill.

Ond, wrth edrych ar yr holl bolau piniwn sydd erbyn heddiw, mae’n anodd dweud pwy sydd wir ar y blaen. Roedd pôl yn y Sunday Telegraph yn dangos fo ‘Ie’ ar y blaen 54% i 46%, tra bod y ‘Sunday Times’ yn rhoi ‘Na’ ar y blaen 51% i 49%.

Sydd yn awgrymu i mi fod y canlyniad am fod yn un hynod o anodd ei galw, ac efallai fod pobol yn newid eu meddyliau yn reit aml – wrth i storiau ac areithiau di-ri ddod allan.

Mewn ‘chydig ddiwrnodau fe fydd y diwrnod mawr wedi cyrraedd, a gall llawer dal ddigwydd mewn amser byr.

Ond wrth i ymgyrch ‘Better Together’ edrych yn fwyfwy ddi-strwythr, a’r un hen stori o ddiffyg cytuno yn fewnol ac ymysg pleidiau San Steffan, gallaf ond obeithio fod dylanwad Sturgeon a Salmond yn ddigon positif a cry’ i’w gorchfygu.