Dafydd Elfryn
Dafydd Elfryn sydd wedi bod yn pori drwy’r ystadegau i weld beth sy’n gyffredin, ac yn wahanol, am Gymru a’r Alban, yn ei flog cyntaf i golwg360.

Y ddadl fawr ar y teledu, y wasg ac ar y we ar hyn o bryd yw’r un am refferendwm annibyniaeth yr Alban. Mae gan bawb ei farn, ac mae’r ddwy ochr yn dadlau mai nhw sydd yn iawn – ac y bydd yr Alban yn well yn eu dwylo nhw.

Yn sgil hyn wrth gwrs, mae’r sgwrs yma yn symud ymlaen i annibyniaeth Cymru. Os yw’r Alban yn llwyddiannus, ydi hyn yn golygu mai ni fydd nesaf? Fedrwn ni ddilyn esiampl yr Alban? Neu ydi’r sialensiau sydd yn wynebu’r Alban yn wahanol i be fysa’n wynebu ni?

O ran diddordeb, es i ati i ddefnyddio’r ffigyrau sydd ar gael i weld pa mor debyg (neu annhebyg) yw’r ddwy wlad.

Dwi wedi cymryd ffigyrau Cymru a’r Alban o wefannau ONSNOMISStatsCymru a’u cymharu gyda’i gilydd.

(Er gwybodaeth – dwi o blaid annibyniaeth i’r Alban, a dwi’n gobeithio un diwrnod y bydd Cymru hefyd yn annibynnol. Serch hynny, dwi wedi trio cyfleu’r wybodaeth yma heb unrhyw ffafriaeth naill ffordd).


Cymharu maint y ddwy wlad
Daearyddiaeth

Y gwahaniaeth mwyaf amlwg rhwng y ddwy wlad yw ei maint. Mae’r Alban bron iawn bedair gwaith yn fwy na Chymru o ran arwynebedd, gyda 78,387km² o’i gymharu â 20,761km² Cymru.

Er y gwahaniaeth mawr mewn arwynebedd, os wnawn ni gyfrif y dwysedd poblogaeth (h.y. faint o bobl sydd yn byw ymhob km sgwâr) ‘da ni’n gweld fod Cymru dipyn mwy dwys na’r Alban – sy’n gwneud synnwyr wrth feddwl am yr ardaloedd mynyddig ac anial sydd yn yr Alban, gyda phoblogaethau bychan iawn.


Dwysedd poblogaeth
Mae’r graff isod yn dangos y ffigyrau.

Poblogaeth

Yn ôl y cyfrifiad 2011, mae poblogaeth Cymru tua 3.1 miliwn, o’i gymharu â phoblogaeth mwy o 5.3 miliwn yn yr Alban.

Wrth edrych ar batrwm oedrannau’r boblogaeth yn ddwy wlad, mi wnawn ni edrych ar y canran yn hytrach na’r nifer – mae hyn yn gwneud y gymhariaeth yn haws.


Poblogaethau, yn ôl oed
Er gwahaniaethau bychain, mae’n ddiddorol gweld pa mor agos yw siâp poblogaeth y ddwy wlad.

Fel mae’r graff yn dangos, mae gan yr Alban ganran uwch o boblogaeth rhwng 25-44 oed. Mae Cymru yn cynnwys canran fwy o bobl ifanc 0-24 oed a henoed dros 65.

Iaith

Fel ‘da ni gyd yn ymwybodol, mae’r iaith Gymraeg yma dan warchae, gyda ffigyrau nifer sy’n siarad Cymraeg yn gostwng yn ôl y cyfrifiad olaf. Er hyn, mae’r sefyllfa iaith yn yr Alban yn dipyn mwy trist.


Canran siaradwyr yr iaith frodorol
Dim ond ychydig dros 1% o’r boblogaeth sy’n siarad Gaeleg yn yr Alban – o’i gymharu â dros 18% yn siarad Cymraeg yma yng Nghymru.

Rhaid i mi gyfaddef, dwi’m yn deall digon am hanes yr iaith Gaeleg i wybod am yr ymgyrchu sydd wedi bod i gadw’r iaith, neu gynyddu’r nifer o siaradwyr. Ond mae pethau yn edrych yn ddu iawn.

Gwaith

Mae’r graff isod yn cymharu’r cyflog blynyddol ar gyfartaledd yn y ddwy wlad.

Mae Albanwyr yn derbyn cyflog sydd dros £1,800 y flwyddyn yn fwy na’r Cymry.


Cyflogau blynyddol ar gyfartaledd
O ran diweithdra, mae 3.4% o Albanwyr ar Lwfans Ceisio Gwaith (Job Seekers Allowence) o’i gymharu gyda 4% o Gymru.

Mae’r graff isod yn dangos ym mha feysydd mae’r boblogaeth yn gweithio.

Mae’r graff yn dangos fod Cymru ar y blaen o’r Alban yn y meysydd Cynhyrchu ac Addysg, ond bod yr Alban yn ennill yn y meysydd Gwyddonol/Technegol a Gweinyddol/Cefnogol. (mae gan Yr Alban “Silicon Glen” o gwmnïau technoleg).

Addysg


Cymwysterau addysg
Mae’r graff isod yn dangos sut mae’r ddwy wlad yn cymharu o ran addysg.

Mae Cymru i weld yn perfformio’n dipyn gwell na’r Alban, gyda llai o blant heb yn gadael ysgol heb gymwysterau a mwy yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau uwch.

Allforio

Yn olaf, fe wnawn ni edrych ar y ffigyrau allforio i’r ddwy wlad. Mae’r ffigyrau yma i eitemau sydd wedi cael eu hallforio i wledydd y tu allan i’r DU.


Diwydiannau allforio Cymru a'r Alban
Am ryw reswm, dyw’r ffigyrau am olew crai o Fôr y Gogledd ddim yn rhan o ffigyrau’r Alban – dim ond y DU i gyd, felly dwi wedi gorfod ei gadael nhw allan.

Dwi wrth fy modd hefo’r ffigwr uchel sydd yn deillio o’r Alban yn allforio wisgi – mae eu hadran alcohol a baco nhw dros 20% yn fwy na ni yma!

O ran Cymru, ‘da ni ar y blaen yn yr adran Mwynau a Thanwydd (eto – rhaid cofio bod olew crai ddim yn rhan o hyn) a Pheirianneg.

Canlyniad

Dim ond ryw drosolwg bras o’r ddwy wlad dwi wedi cynnwys yma. Dyw ffigyrau fel hyn ddim yn gallu disgrifio naws, ysbryd a chymeriad gwlad a’i phobl.

Da ni’n rhannu’r un fath o boblogaeth o ran oedran, er bod y niferoedd yn fwy yn yr Alban. Mae’r rhaniad gwaith hefyd yn debyg iawn – gyda’r un fath o ganrannau yn gweithio yn yr un meysydd yn y ddwy wlad (gydag ambell eithriad fel swyddi technegol yr Alban ac Addysg yng Nghymru).

Ond, mae ‘na hefyd wahaniaethau mawr. Heblaw am y gwahaniaeth arwynebedd amlwg, mae’r sefyllfa iaith Gaeleg yn yr Alban yn druenus.

Mae Cymru hefyd i weld yn gwneud dipyn gwell mewn addysg. Mae patrymau allforio’r ddwy wlad yn wahanol hefyd, gyda wisgi’r Alban yn cyfrannu’n sylweddol!

Yn fy marn i felly, camsyniad fysa ddefnyddio’r Alban fel rhyw fath o ‘blueprint’ ar gyfer annibyniaeth yng Nghymru. Mae’r gwahaniaethau yn rhy niferus, ac felly bydd dadleuon a sialensiau newydd yn codi mewn annibyniaeth i Gymru.

Gallwch weld y graffiau’n fanylach a darllen mwy o flogiau ystadegol gan Dafydd ar ei flog personol, www.dafyddelfryn.co.uk.