Bydd mwy na 1,000 o luoedd arfog Prydain yn ymuno ag ymarfer milwrol mawr yng Ngwlad Pwyl fel rhan o weithred gan NATO i roi sicrwydd i aelodau o Ddwyrain Ewrop.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon heddiw y byddai 1,350 o filwyr a mwy na 350 o gerbydau arfog yn cymryd rhan yr ymarferion ym mis Hydref.

Daw’r cyhoeddiad cyn Uwchgynhadledd NATO fydd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd ym mis Medi. Bydd y gynhadledd yn gweld arweinwyr gwledydd NATO yn cyfarfod i drafod sut y byddan nhw’n ymateb i fygythiadau yn y dyfodol.

Dyma ymrwymiad mwyaf y Deyrnas Unedig i’r rhanbarth ers 2008 ac mae’n rhan o gyfres o symudiadau gan NATO drwy gydol yr hydref i gefnogi gwledydd yn nwyrain Ewrop a’r Baltig yn dilyn y cyfnod cythryblus yn Wcráin.