Erthygl George Carey ysgogodd y drafodaeth (Llun llyfrgell)
Mae corff llywodraethol Eglwys Lloegr wedi galw am sefydlu Comisiwn Brenhinol i ymchwilio i hawliau unigolion sy’n dioddef o salwch marwol i gael help i farw.

Ar hyn o bryd mae’r Eglwys o blaid cadw’r sefyllfa gyfreithiol fel ag y mae gan ddadlau fod yna falans rhwng trugaredd a gwarchod unigolion bregus.

Bydd Tŷ’r Arglwyddi yn trafod y pwnc dydd Gwener nesaf, ar ôl i’r Arglwydd Falconer gyflwyno mesur fydd yn ei gwneud yn gyfreithlon i oedolion yng Nghymru a Lloegr gael cymorth i ladd ei hunain os oes ganddyn nhw lai na chwe mis i fyw.

Fe gododd y pwnc yn y Synod yn Efrog heddiw am fod cyn Archesgob Caergaint, George Carey, wedi ysgrifennu erthygl yn y Daily Mail yn dweud ei fod wedi ail feddwl ac erbyn hyn o blaid newid y gyfraith.

Mae’n dweud yn yr erthygl mai profiad Tony Nicklinson, fu farw ddwy flynedd yn ôl ar ol blynyddoedd o ddiodde o syndrom corff-dan-glo, wnaeth iddo ail-feddwl.

Roedd Tony Nicklinson yn ymgyrchydd brwd dros yr hawl  i farw ac aeth i gyfraith i geisio cael yr hawl i ladd ei hun.

“Dyma ddyn llawn urddas yn gwneud apêl syml am drugaredd, “ meddai’r Arglwydd Carey.

“Roedd yn erfyn ar i’r gyfraith ganiatau iddo farw mewn heddwch gyda chefnogaeth ei deulu.

“Fe wnaeth ei loes wneud i mi amau fy nghymellion mewn dadleuon blaenorol ar y mater yma. A oeddwn i wedi bod yn rhoi dysgeidiaeth o flaen angerdd, dogma o flaen urddas dynol?”

Daioni

Yn dilyn trafodaeth yn y Synod, dwedodd Esgob Carlisle, Y Gwir Barchedig James Newcombe, llefarydd Eglwys Lloegr ar iechyd, bod aelodau’r Eglwys wedi cael eu synnu gan gynnwys ac amseriad yr erthygl ond yn cydnabod bellach bod llawer o ddaioni wedi deillio o’i chyhoeddi.

“Mae wedi ysgogi trafodaeth gyhoeddus ar rai materion a thanlinellu pa mor bwysig ydi’r pwnc.

“ Ein gobaith fel Eglwys Lloegr rwan ydi y bydd mesur Falconer yn cael ei dynnu’n ôl er mwyn i’r pwnc yma sydd mor hynod bwysig gael ei drafod mewn manylder gan Gomisiwn Brenhinol.”

Mae’r Arglwydd Falconer wedi gwrthod tynnu ei fesur yn ôl gan ddweud na fuasai hynny yn ddoeth nac yn bridodol.

“Mae’r cynnig yma yn annoeth oherwydd bydd hyn yn cymeryd amser hir iawn.

“Mae’r mater wedi cael ei drafod ddwywaith yn Nhŷ’r Arglwyddi eisoes a’r trydydd tro fydd dydd Gwener,” meddai.

Mae’r Archesgob Caergaint presennol, Justin Welby, wedi galw mesur yr Arglwydd Falconer yn “gamgymeriad ac yn beryglus.”