Cyn-Archesgob Caergaint, George Carey (Llun llyfrgell)
Mae gweddw dyn wnaeth ymgyrchu dros yr hawl i farw wedi croesawu erthygl gan y cyn-Archesgob Caergaint, George Carey, sy’n dweud ei fod bellach o blaid caniatau hynny.

Bydd Tŷ’r Arglwyddi yn trafod y pwnc dydd Gwener nesaf ar ôl i’r Arglwydd Falconer gyflwyno mesur fydd yn ei gwneud yn gyfreithlon i oedolion yng Nghymru a Lloegr gael cymorth i ladd ei hunain os oes ganddyn nhw lai na chwe mis i fyw.

Mewn erthygl yn y Daily Mail, mae George Carey yn dweud ei fod erbyn hyn o blaid newid y gyfraith er mwyn rhoi’r hawl i’r rhai sy’n diodde o afiechyd marwol gael cymorth i farw.

Mae’n dweud mai profiad Tony Nicklinson, fu farw ddwy flynedd yn ôl ar ol blynyddoedd o ddiodde o syndrom corff-dan-glo, wnaeth iddo ail-feddwl.

Roedd Tony Nicklinson yn ymgyrchydd brwd dros yr hawl  i farw ac aeth i gyfraith i geisio cael yr hawl i ladd ei hun.

“Dyma ddyn llawn urddas yn gwneud apêl syml am drugaredd, “ meddai’r Arglwydd Carey.

“Roedd yn erfyn ar i’r gyfraith ganiatau iddo farw mewn heddwch gyda chefnogaeth ei deulu.

“Fe wnaeth ei loes wneud i mi amau fy nghymellion mewn dadleuon blaenorol ar y mater yma. A oeddwn i wedi bod yn rhoi dysgeidiaeth o flaen angerdd, dogma o flaen urddas dynol?”

Wedi ei syfrdanu

Dywedodd gweddw Tony Nicklinson, Jane, ei bod “wedi ei syfrdanu” gan dro pedol yr Arglwydd Carey.

“Dwi wedi fy syfrdanu oherwydd mai’r Eglwys sydd wedi bod yn un o’n gwrthwynebwyr mwyaf ni yn y gorffennol.

“Dwi’n meddwl bod Tony wedi cael effaith ar lawer o bobl – ond i glywed ei fod wedi cael effaith ar rhywun mewn awdurdod fel hyn – rhywun sy’n fodlon cyhoeddi a chefnogi ein safbwynt yn gwbl agored, wel dwi wedi gwirioni.

“Dwi wrth fy modd, a dwi’n gwybod y buasai Tony wrth ei fodd hefyd.”