Osian Elias
Mae angen i Lywodraeth Cymru newid ei pholisi ffioedd myfyrwyr, meddai Osian Elias …

Ers deuddeg mlynedd bellach mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn talu rhywfaint o ffioedd dysgu pob myfyriwr o Gymru, ble bynnag maen nhw’n astudio – ac mae’n bryd i hyn ddod i ben.

Mae rhywfaint o drafodaeth wleidyddol eisoes wedi bod yn digwydd i ystyried a ddylai’r polisi hwn newid, fel bod y cymorth ariannol yma ddim ond yn cael ei gynnig i’r Cymry sydd yn penderfynu astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Dyma ddadl sydd, fel mae Guto Davies yn cydnabod yn ei flog ef, yn debygol o ddominyddu trafodaethau am addysg uwch yn y dyfodol agos yn enwedig gydag etholiad Cynulliad yn 2016.

Wrth gwrs, nid trafodaeth am y ffioedd £9,000 mae’n cyfeirio atyn nhw, ond at grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gostwng y ffioedd hynny i £3,685 ar gyfer pob myfyriwr.

Mae’r camddealltwriaeth sylfaenol yma yn arwain at bobl yn cefnogi polisi cyfredol Llywodraeth Cymru heb ystyried addysg uwch yn gyffredinol ac o fewn cyd-destun Ewropeaidd.

Ac yn wahanol i Guto, rwyf o’r farn ei bod hi’n bryd i’r polisi yma newid – byddai peidio rhoi’r grant yma i fyfyrwyr sydd yn mynd i astudio yn Lloegr nid yn unig yn arbed arian i Lywodraeth Cymru, ond yn cryfhau ein prifysgolion ni’r ochr hwn i Glawdd Offa.

Nid yn unig hynny, ond fe allai hyn osod esiampl ein bod am ddilyn trywydd mwy Ewropeaidd o ariannu ein haddysg uwch, yn hytrach na dilyn y model mae San Steffan wedi’i osod.

Gwahaniaethu rhwng Lloegr

Ailgyflwynwyd ffioedd dysgu yn 1998 gan lywodraeth Lafur Tony Blair, yr un llywodraeth a sefydlodd y Cynulliad. Mae’r ddwy ddeinameg yma yn allweddol i ddeall y dadleuon o blaid ac yn erbyn polisi cyfredol Llywodraeth Cymru yn yr achos yma.

Mewn ymateb i’r ffioedd yma, ac i brofi’r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, cyflwynwyd y grant ffioedd dysgu gan Lywodraeth Cymru yn 2002.

Dadleuodd yr AC Ceidwadol Jonathan Morgan bod hyn yn dro pedol ar bolisi’r blaid Lafur o ailgyflwyno ffioedd dysgu. Disgrifiodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol (NUS) ar y pryd ei obaith bod hyn yn gyfle i symud tuag at waredu ffioedd dysgu ac ehangu cyfranogiad.

Yn anffodus, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd, serch gwrthwynebiad chwyrn, gyda ffioedd dysgu yn cynyddu o’r £1,000 gwreiddiol i ffioedd amrywiol hyd at £9,000 yn y ddwy flynedd diwethaf.

Dyna yw prif stori addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol yn y ddegawd a mwy diwethaf, ac mae ffioedd dysgu wedi  dominyddu dadleuon am addysg uwch ers ei ailgyflwyno.

Erbyn heddiw, ac o ganlyniad i ddiffygion y setliad datganoledig yng Nghymru, mae ‘tro pedol’ 2002 Llywodraeth Cymru bellach yn safiad aneffeithiol.

Nid yw San Steffan wedi derbyn y neges, ac mae ffioedd £9,000 yn golygu bod oddeutu £50 miliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi ym mhrifysgolion Lloegr yn y ddwy flynedd diwethaf.

Safiad o Gymru

Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru gymryd safiad llawer mwy arwyddocaol ac i fuddsoddi’r arian yma yn addysg uwch yng Nghymru, gan godi safon addysg uwch ac o bosib i gynyddu’r grant i ddarpar fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yma.

Erbyn heddiw, mae prifysgolion Cymru yn chwarae rôl economaidd allweddol ac mae cyrsiau ar bron bob pwnc yn cael eu cynnig. Gyda buddsoddiad ychwanegol pam na allwn fod yn uchelgeisiol a buddsoddi yn y meysydd nad oes gennym arbenigedd ar hyn o bryd?

Ond onid yw hyn yn ynysig a chul, byddai rhai yn dweud? Onid ‘gorfodi’ myfyrwyr Cymru i aros yng Nghymru yw hyn? Beth am y byd y tu allan i Gymru fach?

Os yw myfyrwyr Cymru am astudio heb orfod talu ffioedd dysgu uchel (fel yn Lloegr) pam ddim mynd ymhellach, peidio fod yn (llythrennol) ynysig, a derbyn addysg uwch yn rhad ac am ddim ar y cyfandir fel dinesydd Ewropeaidd?

Wrth gymharu ffioedd dysgu Cymru/Lloegr a ffioedd dysgu ar y cyfandir (ac yn yr Alban) mae’n amlwg mai ein polisi ni (i godi ffioedd £9,000) sydd yn ynysig a chul.

Profwyd hyn yr wythnos diwethaf gydag adroddiad oedd yn cadarnhau bod un o bob 20 o blant aeth i ysgolion preifat wedi mynd i Oxbridge, o’i gymharu ag un o bob 100 o blant aeth i ysgolion cyhoeddus.

Dangos esiampl i San Steffan

Byddai dileu’r grant ffioedd dysgu i Gymry sydd yn astudio yn Lloegr a mabwysiadu polisi tebyg i’r Alban yn gam tuag at addysg fwy cynhwysol yn unol â normau Ewropeaidd, ac yn gam i ffwrdd o system sydd ond yn cynnal anghyfartaledd.

Nid yw ffioedd dysgu £9,000 wedi cynnig gwell addysg i fyfyrwyr ac mae awgrymiadau na fydd y polisi yn cynnig arbediad ariannol i’r Llywodraeth. Ychwanegwch i hyn yr ofnau am breifateiddio benthyciadau myfyrwyr a’r newyddion y gall y cyfraddau llog gynyddu ac mae’n werth holi pwy sy’n elwa o’r sefyllfa gyfredol?

Mae’r dystiolaeth yn dangos i ni mai is-gangellorion, yn enwedig o brifysgolion elit, sydd wedi elwa gan fwynhau codiad cyflog ar gyfartaledd o £20,000 yn y flwyddyn ddiwethaf.

Nid oes gennym y gallu i wireddu’r freuddwyd o waredu ffioedd dysgu i bawb o Gymru lle bynnag maen nhw’n astudio, ac nid yw lleddfu’r boen o du polisi San Steffan yn bolisi derbyniol nac effeithiol.

Rwy’n gobeithio y gall gwaredu’r grant ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr fod yn gam cyntaf tuag at ddileu ffioedd dysgu i ddinasyddion Cymreig ac Ewropeaidd yng Nghymru (fel yr Alban). Rwyf hefyd yn derbyn bod hyn yn hynod o uchelgeisiol.

Ond, mae’n amlwg ei bod yn amser i ni ddod i ben â’n hymdrech anobeithiol i leddfu poen y gyfundrefn gyfredol, ac i o leiaf fentro i lawr y llwybr tuag at brofi ein hyder a gwireddu’r hyn mae ein statws fel gwlad Ewropeaidd yn ei gynnig.

Mae Osian Elias yn fyfyriwr doethur yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.