Rhys Evans
Rhys Evans sy’n edrych ar rol y cyfryngau i wella’r sefyllfa…

Ar ôl 15 mlynedd o ddatganoli,  llai na hanner y bobl yng Nghymru sy’n gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd.

Mae pôl gan y BBC wedi darganfod mai 48% yn unig oedd yn ymwybodol mai gweinidogion Cymru oedd a gofal dros iechyd tra bod 43% yn meddwl bod y GIG yn parhau o dan reolaeth Llywodraeth y DU.

Mae’r ystadegau yma’n ddiddorol wrth ystyried y pwyslais mae’r pleidiau yn Llundain yn ei roi ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru – cafodd Clawdd Offa ei ddisgrifio gan  David Cameron fel y “ffin rhwng byw a marw.”

Yn dilyn y stori yma, rwy’ wedi bod yn meddwl – faint o gyfrifoldeb sydd ar y cyfryngau i esbonio pethau fel hyn neu ai dyletswydd y Llywodraeth ym Mae Caerdydd yw hi gwneud mwy i egluro beth yn union mae’n ei gwneud?

Yr ateb yw, y ddau.

Mae prif fwletinau newyddion y BBC yn parhau i ddrysu rhwng pwerau datganoledig ac anatganoledig, ac yn aml yn cyfeirio at bolisïau sydd yn ymwneud a Lloegr yn unig fel gwaith  Llywodraeth San Steffan.

Rwy’n cofio gwylio BBC Breakfast a chlywed cyfeiriadau at Michael Gove fel y Gweinidog Addysg, nid   Gweinidog Addysg San Steffan.

Mae’n annhebygol bod ymdriniaeth o’r fath am adlewyrchu yn dda ar feddwl pobl o le mae pŵer yn sefyll.

Yn fwy na hyn, mae rhaglenni gwleidyddol blaengar y BBC (yn bennaf Question Time) yn hollol fodlon rhoi sylw at y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wrth recordio yn Lloegr ond yn methu a gwneud yr un peth pan yng Nghymru.

Ychwanegwch at hyn ganran y boblogaeth sydd byth yn gwylio newyddion sydd â ffocws ar Gymru ac mae’r sefyllfa yn siomedig i ddweud y lleiaf.

‘Gwybodaeth anghyflawn’

Sut oes modd addysgu’r boblogaeth pan mae’r wybodaeth sydd yn cael ei ddarlledu ar raglenni teledu a radio yn aml yn anghyflawn?

Yn hyn o beth, mae’n ddiddorol gweld mai’r BBC wnaeth gomisiynu’r arolwg. Mae’n ymddangos bod y pôl yn adlewyrchu’r pwyslais Llundain-centrig sydd yn bodoli o fewn y BBC sydd, o ganlyniad, yn rhannol gyfrifol dros yr anwybodaeth yng Nghymru.

Ynghyd a’r pwyslais ar Lundain sydd yn amlwg yn y cyfryngau yng Nghymru, mae’r diffyg cyfryngau a’r gwasg yng Nghymru yn gwaethygu’r anwybodaeth ymhlith pobl Cymru.

Mae yna le yn bendant  i wella’r  sefyllfa bresennol – ond sut?

Ai sefydlu papur newydd cenedlaethol Cymraeg yw’r ateb? Mae’r datrysiad hwn yn awgrymu bod canran sylweddol o’r boblogaeth yn parhau i ddarllen papurau newydd – sydd yn bell o fod yn wir.

Rwy’n gefnogol iawn o’r ymgyrch i gael Newsnight Cymru oherwydd mae’r ymgyrch ei hun yn mynd i’r afael a’r problemau sydd yn bodoli o fewn democratiaeth Gymreig.

Mae galw ar y BBC i sefydlu rhaglen o’r fath sydd yn ddrych i’r hyn sy’n bodoli yn yr Alban yn barod yn ddatrysiad addawol. Mae Alex Salmond hefyd wedi son am greu ‘BBC’ newydd ar gyfer yr Alban – gwers dda i ni yng Nghymru efallai?

Ai lle’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd yw hi i wneud mwy i egluro beth yn union maen nhw’n gwneud?

Mae yna’n sicr mwy y gall y Llywodraeth fod yn ei gwneud i addysgu’r cyhoedd, a gwaith y gwleidyddion yw sicrhau bod yna drafodaethau yn cymryd lle ynglŷn â beth yn union yw gwaith y Llywodraeth yn hytrach na gadael i’r cyhoedd gael eu drysu gan yr hyn maent yn ei glywed ar y teledu.

I sicrhau bod y pymtheg mlynedd nesaf o ddatganoli ddim wedi’i nodweddu gan y dryswch sydd wedi nodweddu’r pymtheg mlynedd diwethaf, mae’n rhaid addysgu’r cyhoedd yn well ar y gwahaniaethau rhwng polisïau sy’n cael eu llunio yng Nghaerdydd a rheiny sy’n cael eu llunio yn San Steffan.

I wneud hyn, mae’n rhaid sirhau  bod yna well ymdriniaeth o faterion Cymreig ar raglenni fel Question Time a bod y wasg yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sy’n bodoli rhwng gwleidyddiaeth yng Nghymru a gweddill Prydain.