Michael Gove
Mae pennaeth Ofsted yn honni bod yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove wedi atal cyflwyno archwiliadau “dirybudd” mewn ysgolion ddwy flynedd yn ôl.

Mae’r prif arolygydd, Syr Michael Wilshaw yn dweud ei fod wedi galw am archwiliadau dirybudd pan ddechreuodd y swydd ond bod Michael Gove wedi gwrthod y syniad oherwydd pryderon ymhlith penaethiaid ysgol.

Yn y Senedd ddoe, fe rybuddiodd yr Ysgrifennydd Addysg a gallai pob ysgol wynebu archwiliadau dirybudd yn dilyn pryderon am “eithafiaeth” Mwslimaidd mewn ysgolion ym Mirmingham.

Mae Syr Michael Wilshaw wedi croesawu’r “tro pedol” wrth iddo drafod y mater ar raglen Newsnight ar BBC2.

Ond wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd ffynhonnell o’r Adran Addysg bod Syr Michael yn “anghywir” i awgrymu bod Michael Gove wedi atal cyflwyno archwiliadau dirybudd gan ddweud y byddai rhagor yn cael ei ddweud am y mater yn y dyfodol agos.