Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd ddim yn gweld llawer o sylwedd yn fideos youtube y pleidiau gwleidyddol …

Dw i’n mynd i ddyfalu nad oes llawer ohonoch chi wedi gweld clip fideo diweddaraf y Blaid Lafur eto ar ôl ei gyhoeddi ddoe – ac os ydych chi’n un sy’n byw a bod ar sianeli youtube pleidiau gwleidyddol, mae angen i chi fynd allan mwy!

Ond fe gafodd ei rannu gan ambell anorac gwleidyddol ar Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol ddoe ac, ar ôl cael pip arno, mae o ychydig yn wahanol i’r fideos arferol gewch chi.

Nid gwleidydd yn edrych i fyw eich llygad a dweud y bydd popeth yn iawn o dan arweiniad ei blaid ef sydd yma (ef ydyn nhw o hyd), na “phobl gyffredin” yn datgelu brwdfrydedd mawr am ei pholisïau.

Mae yna rywfaint o hiwmor yn y fideo, sy’n tynnu hwyl am ben Nick Clegg, ei addewidion, a’r toffs Torïaidd sy’n rhedeg y llywodraeth.

Tydi o ddim am ennill unrhyw wobrau comedi (er hyd y gwn i does na ddim y fath beth â ‘Funniest Party Political Broadcast of the Year’), ond cymrwch gip a gweld beth ydach chi’n ei feddwl:

Hwyl am ben Cleggy

Testun sbort y fideo, wrth gwrs, ydi’r ffaith bod Clegg a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi torri’u haddewid ar ffïoedd myfyrwyr, a’r awgrym wedyn eu bod wedi aros yn ddistaw wrth i’r Ceidwadwyr gyflwyno llu o bolisïau amhoblogaidd.

Chwarae ar ystrydebau cyffredin y mae fideo Llafur – mae pawb wedi clywed hen ddigon am faint o shrinking violet ydi Clegg a pha mor posh ydi Cameron a’i griw, does yna ddim byd newydd yn hynny.

Ond dydi’r clip, er gwaethaf yr ymdrech i godi gwên (sylwch mod i’n gweld y clip yn llai a llai doniol po fwya dw i’n meddwl amdano), ddim yn dweud dim byd ar y cyfan.

Dydi o ddim yn dweud dim am y Ceidwadwyr na’r Lib Dems nad ydi rhywun sydd heb fyw o dan garreg ers pum mlynedd yn ei wybod yn barod.

Mae’r fideo’n gorffen gyda Llafur yn dweud y bydd gweithwyr caled Prydain yn well gyda nhw mewn pŵer – ond does dim gair am sut y byddai hynny’n digwydd.

Fideo hollol negyddol ydi o felly, yn y bôn, sydd yn dweud dim am sut y byddai Llafur yn gwella’r trychinebau honedig sydd wedi digwydd dan lywodraeth y ConDems.

Dw i ddim yn un o’r rhain sydd yn gwrthwynebu ymgyrchu negyddol yn llwyr – wedi’r cyfan, os ydach chi’n meddwl fod eich gwrthwynebwyr yn gwneud rhywbeth mawr o’i le fe ddylech chi gael dweud hynny (o fewn rheswm, heb wneud cyhuddiadau di-sail).

Ond o leiaf cynigiwch eich ateb eich hun – peth hawdd iawn ydi dweud bod rhywbeth o’i le, ond mae’n cymryd llawer mwy o feddwl i ganfod yr atebion.

Dwi’n gwybod fod gwleidyddion Llafur eisoes wedi dweud y bydden nhw’n gwyrdroi rhai o’r penderfyniadau hynny, ond flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol maen nhw’n dal yn ddigon swil i ymrwymo’n gadarn i addewidion eraill.

Gyda llaw, mae’r Lib Dems rŵan wedi taro nôl gyda fideo sydd yn dweud hyd yn oed llai fyth:

Dim sylw, dim sylwedd

Y peth arall sy’n nodweddiadol am y darllediadau gwleidyddol yma ydi hyn –trafod pynciau’r etholiad cyffredinol yn llwyr, er mai etholiadau Ewrop, nid San Steffan, sydd mewn pythefnos.

Nid Llafur yn unig sy’n euog o hyn – mae’r pleidiau i gyd weithiau’n ymosod ar ei gilydd am faterion sydd y tu hwnt i Senedd Ewrop, ac felly y bu hi gyda’r etholiadau yma erioed.

Does gan y person cyffredin fawr ddim syniad beth mae ein Haelodau Seneddol Ewropeaidd yn ei wneud, ac felly yn selio’u pleidlais ar beth maen nhw’n ei glywed gan y pleidiau o San Steffan a Chymru.

Ond ar y cyfan, os edrychwch chi ar ddarllediadau gwleidyddol y pleidiau, eu datganiadau yn y newyddion (a’u sianeli youtube) prin yw’r negeseuon sydd yn esbonio pam eu bod yn bwysig cael aelodau o’r blaid yn Ewrop.

Mae gan Blaid Cymru lwyth o glipiau gyda negeseuon Ewropeaidd, er fod y rhan fwyaf yn rhai byr iawn – a dim darllediad gwleidyddol am Ewrop.

Mae prif ddarllediad y Ceidwadwyr, i fod yn deg, yn sôn am rai o’r pethau y maen nhw wedi’i wneud yn Ewrop, ond hefyd yn cynnwys sgwarnogod ar bethau fel refferendwm aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd – a fyddai’n cael eu cyflawni drwy San Steffan yn hytrach na thrwy Senedd Ewrop.

Trywydd tebyg sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol – pobol yn esbonio pam eu bod nhw eisiau aros yn yr Undeb, ond rhywbeth a gaiff ei benderfynu yn Llundain ac nid Brwsel ydi hynny yn y bôn.

A UKIP yr un fath, gyda llwyth o fideos wedi’u henwi’n ddryslyd ynglŷn a phwnc nad oes gan eu ASE unrhyw bŵer drosto (nac ychwaith eu Haelodau Seneddol dychmygol).

Mae hyn yn siŵr o fod yn rhan o’r rheswm pam nad oes llawer yn pleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd – dydi pleidiau ddim yn gwneud digon i esbonio beth yn union fydd eu haelodau nhw’n ei wneud unwaith maen nhw yno.

Ac mae’n anoddach i bobol fod o blaid aros yn aelodau o sefydliad os nad oes ganddyn nhw syniad beth sy’n digwydd yno.