Nigel Farage
Yn ystod yr wythnos pan gyhoeddodd UKIP eu bwriad i herio am sedd seneddol Newark yn Swydd Nottingham, gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n pwyso a mesur ymweliad diweddar arweinydd UKIP, Nigel Farage ag Abertawe cyn etholiadau Ewrop ar Fai 22. Barn bersonol a geir…

Wrth i syrcas UKIP adael Abertawe’r wythnos diwethaf, fe adawodd y cylchfeistr Nigel Farage res o gwestiynau heb eu hateb ar ei ôl. Yn drosiadol ac yn llythrennol felly. Holi ac ateb ar bapur, ddylwn i ychwanegu.

Ar ddiwedd cyfarfod cyhoeddus – oedd yn ymddangos fwy fel rali – yn Stadiwm Liberty, roedd y sesiwn holi ac ateb yn dweud mwy, efallai, am yr arweinydd a’i blaid-un-polisi nag yr oedd yr araith gan y dyn ei hun yn gynharach yn y noson. Cafodd y gynulleidfa eu hannog i beidio torri ar draws ei araith, gan y byddai cyfle i ofyn cwestiynau’n nes ymlaen – gan beri i ddyn ofyn am “permission to speak, sir”.

Pwy fyddai’n well gan UKIP ymuno â nhw mewn clymblaid yn San Steffan? Beth yw barn UKIP am berchnogaeth ar arfau? A ddylid cyfreithloni cyffuriau?

Osgoi neu wrthod ateb neu wfftio’r cwestiwn wnaeth Farage bob tro. “Dwi’n osgoi ateb hwn”, “Byddai ateb hwn yn tynnu oddi ar fater Ewrop”, “Mae hyn yn tynnu oddi ar y ddadl am fewnfudwyr” oedd ei amryw fersiynau o’r un ateb cwta i bob un cwestiwn oedd yn gofyn iddo drafod gwleidyddiaeth ehangach na pholisi mewnfudo ei blaid – sy’n ddadleuol i’r rhan fwyaf – sydd wedi eu codi i uchelfannau gwleidyddiaeth gwledydd Prydain. Mae’n barod i adael i’w areithiau ateb y cwestiynau hynny’n unig y mae’n barod i gynnig atebion iddyn nhw.

“They don’t like it up em” yw’r ymadrodd sy’n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro wrth drafod UKIP. Mae’r term yma’n ffitio’r blaid ar lawer ystyr, nid lleiaf fel plaid sy’n dyheu am fod y “real deal” – y criw sy’n gallu dangos i’r arweinwyr ‘go iawn’ sut i wneud pethau – a’u gwneud nhw’n well. Onid dyna oedd uchelgais Captain Mainwaring a’i ‘Home Guard’? Ond os meiddiwch chi gwestiynu dulliau UKIP, dyma eu gosod ar y droed ôl ac mae’r craciau’n dechrau ymddangos. Na, “they don’t like it up em”.

Mae Farage, fel Captain Mainwaring, ar ei orau pan fo’n sefyll ar ei focs sebon, y tu hwnt i gyrraedd beirniaid sy’n ceisio’i danseilio a chwalu ei hygrededd. Clyfrwch y dyn hwn, i fi, yw’r ffaith y gall dynnu pawb ynghyd waeth bynnag fo’u cefndir, a chynnig bach o bopeth i bawb – o’r ‘Godfreys’ sy yng ngaeafau eu bywydau, i’r ‘Pikes’ sydd megis dechrau ar eu taith mewn bywyd. Er bod modd cwestiynu dulliau Farage, mae’n anodd iawn peidio cael eich swyno gan rai o’i ideoleg.

Mae’n amlwg fod pobol Cymru, i ryw raddau, wedi cael eu cyfareddu. Roedd 22 o bobol yn bresennol mewn cyfarfod cyffelyb yn 2009 ar ymweliad blaenorol y Farage cymharol anhysbys â Chymru. Bum mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i ynghanol torf o 400 yn y wlad lle gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y gefnogaeth i UKIP yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd cannoedd yn rhagor yn waglaw wrth geisio cael  gafael ar docyn. Prawf, chwedl Farage, fod UKIP yn “ymgysylltu â phobol ddigon cyffredin”. Nid plaid i’r sawl fyddai’n cyfaddef eu bod yn eithafol na chwaith i ddosbarth gwleidyddol ar ymyl y gymdeithas mo UKIP bellach. Maen nhw’n manteisio ar etholwyr ym mhob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol sydd wedi’u dadrithio.

Roeddwn innau, fel un sy’n hoffi meddwl fy mod yn sicr fy marn wleidyddol ac sydd â daliadau gwahanol iawn i Farage, yn canfod fy hun wedi fy argyhoeddi gan rai o’i ddadleuon, hyd yn oed.

Wrth gyfeirio ato’i hun yn nhermau un o’r bobol gyffredin hyn, roedd Farage yn barod iawn i feirniadu’r “college kids” bondigrybwyll sy’n rhedeg y DU – y rhai, chwedl Farage, “nad ydyn nhw wedi gwneud diwrnod o waith go iawn yn eu bywydau”. Ar y llaw arall, mae cyn-ddisgyblion Coleg Dulwich, ysgol breifat lle addysgwyd Farage, yn cynnwys bancwyr a diwydianwyr sydd wedi ennill eu bara menyn yn “y ddinas”. Wn i ddim sut mae modd cymhathu’r cefndir gyda’r ideoleg.

Ond i’w gefnogwyr, a’r rhai sy’n ddigon agored eu meddwl i ystyried ymuno â rhengoedd UKIP, mae personoliaeth Farage ynddo’i hun yn ddigon o atyniad, heb fod angen fawr o berswâd. Diddanwch pur yw gwrando ar Farage – roedd hi bron iawn yn werth cerdded trwy’r osgordd o brotestwyr swnllyd wrth y brif fynedfa i’w glywed yn siarad! Mae peth sylwedd yng ngeiriau Farage, ond mae’r gwleidydd yn eilbeth i’r diddanwr – prawf o hyn, efallai, oedd y sesiwn llofnodi llyfrau ar ddiwedd y noson. Ei apêl o safbwynt gwleidyddol yw bod synnwyr weithiau yn yr hyn mae’n ei ddweud.

Un o’r cyfryw bolisïau yw cwtogi ar fewnfudwyr trwy gyflwyno trwyddedau gwaith dros dro. Y bwriad, chwedl Farage, yw sicrhau bod gweithwyr o Ddwyrain Ewrop neu o unrhyw le arall yn y byd yn gallu dod i wledydd Prydain i weithio am gyfnodau penodedig a gadael ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Gofyniad arall mae Farage am weld yw bod gweithwyr o dramor yn dod ag yswiriant iechyd gyda nhw os ydyn nhw’n gwneud cais am drwydded waith. Fel pe bai angen atgyfnerthu’r polisi ymhellach, fe gyfeiriodd Farage yn Abertawe at fframwaith Awstralia lle gall mewnfudwyr fynd i weithio am gyfnodau byr, ond bod gofyn i bobol sy’n dioddef o salwch difrifol gadw draw.

Pwy, dywedwch, fyddai’n anghytuno â hynny, yn enwedig mewn gwlad lle mae cryn bwysau eisoes ar y Gwasanaeth Iechyd? Bwch dihangol, wrth gwrs, yw’r mewnfudwyr yn yr achos yma. Mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi bod mewn cyflwr truenus am amser maith – ond arf yw’r mewnfudwyr i Farage a’i debyg ladd ar y Llywodraeth. Ond pe bai UKIP yn dechrau ymsefydlu yn San Steffan, does dim sicrwydd fod ganddyn nhw bolisi cadarn i wella’r Gwasanaeth Iechyd. Dyma’r oportiwnydd ar waith unwaith eto.

Mae hyn oll yn grêt i bawb sy’n edrych tua San Steffan a De-ddwyrain Lloegr am arweiniad gwleidyddol. Ond beth am y “gutless political class” yn ne Cymru (do, fe ddywedodd Farage yr union eiriau yn y cyfarfod)? Roedd yn feirniadol o fethiant Llywodraeth Cymru i gynnig ateb i broblemau’r Gwasanaeth Iechyd, ac yn lladd ar bobol Cymru’n gyffredinol am edrych tua’r gorffennol a’r hen ddiwydiannau am gynhaliaeth. Arweinydd UKIP, efallai, ond olion Thatcheraidd o’i ddyddiau fel Ceidwadwr yn dal i lywio’i wleidyddiaeth. Dim syndod, felly, fod arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi cyhuddo UKIP o fod yn “fwy Thatcheraidd na Thatcher ei hun”.

Tamaid i aros pryd oedd gan Farage i’w gynnig i’r gynulleidfa yn Abertawe, felly. Cawn weld yn y dyddiau’n dilyn etholiadau Ewrop ar Fai 22 ac isetholiad Newark ar Fehefin 5 a fydd y rhethreg a’r diddanwch wedi llwyddo i ddarbwyllo’r etholwyr fod angen tro ar fyd. Mae un peth yn sicr. Tra bydd byddin o Sargeant Wilsons yn parhau’n ffyddlon i’w harweinydd yn ystod yr ymgyrch etholiadol, fe fydd eraill yn wyneb llwyddiant UKIP yn chwarae rhan yr hen Sgotyn Frazer mewn adlais o’r ymadrodd anfarwol – “We’re doomed”.