Enda Kenny, prif weinidog newydd Iwerddon
Mae Enda Kenny, arweinydd plaid Fine Gael, wedi cael ei ethol yn ffurfiol fel Taoiseach newydd Iwerddon.  

Cafodd ei ethol gan fwyafrif mawr yn y Dail – senedd Iwerddon – ac fe fydd yn arwain Llywodareth glymblaid gyda Llafur.  

Pan gyhoeddwyd fod Enda Kenny wedi ei ethol, o 117 pleidlais i 27, cafwyd cymeradwyaeth mawr gan y gynulleidfa yn y Senedd orlawn.  

Wrth dderbyn ei swydd, dywedodd Enda Kenny ei fod yn gwerthfawrogi’r swydd yn fawr.  

“Dwi eisiau diolch i aelodau’r Tŷ am yr anrhydedd y maen nhw wedi ei roi i fi heddiw,” meddai, gan addo arwain Llywdraeth a fydd yn agored gyda’r cyhoedd.

“Yn yr argyfwng hwn …gonestrwydd yw’r unig bolisi.”  

Addawodd Enda Kenny i gyflwyno rhaglen deg a radical yn y llywodraeth newydd.  

“Fy anrhydedd i yw arwain Llywodraeth a fydd yn ateb yr her o newid cyfeiriad ein gwald a’n harwain ni i ddyfodol gwelld.”  

Bydd digwyddiad swyddogol cyntaf Enda Kenny yn mynd ag ef i Frwsel ddydd Gwener, ar gyfer cyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd, lle bydd yn cwrdd â nifer o benaethiaid gwledydd eraill.  

Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi addo ceisio sicrhau amodau ad-dalu gwell i Iwerddon yn sgîl cyllideb achub gan yr Undeb Ewropeaidd a’r IMF o 85 biliwn Ewro fis Rhagfyr diwethaf.