Yr hysbyseb
Mae ffrae wedi codi ar ôl i’r Ceidwadwyr geisio tynnu sylw mewn hysbyseb at eu hymdrechion i dorri’r dreth ar gwrw a neuaddau bingo.

Gwnaeth cadeirydd y Ceidwadwyr, Grant Shapps drydar am yr hysbyseb, oedd yn honni y byddai torri’r dreth yn “helpu pobol sy’n gweithio’n galed i wneud mwy o’r pethau maen nhw’n eu mwynhau”.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander wedi disgrifio’r hysbyseb fel un “rhyfeddol”.

Roedd torri ceiniog oddi ar beint o gwrw a chwtogi’r dreth bingo o 20% i 10% yn ddau o’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi yn ystod y Gyllideb ddoe.

Ond gwnaeth Grant Shapps geisio rhoi mwy o sylw i’r materion hyn trwy annog pobol i “ledaenu’r gair” ar wefannau cymdeithasol.

Ymatebodd rhai mewn ffordd nawddoglyd i’r hysbyseb.

Dywedodd Danny Alexander fod yr hysbyseb yn “tynnu sylw oddi ar rai pethau eithaf synhwyrol” yn y Gyllideb.

Dywedodd fod “rhesymau da dros gefnogi bingo, ac mae rhesymau da dros annog ein sector tafarndai i gryfhau”.

Ar wefan Twitter, roedd yr hashnod #torybingo yn trendio ddoe, gyda nifer fawr o bobol yn dychanu’r hysbyseb.