Y darn punt newydd
Fe fydd darn punt newydd, 12 ochr yn cael ei ddadorchuddio heddiw.

Y bwriad yw atal twyll gan ei fod yn anodd iawn i’w ffugio.

Fe fydd y darn yn cymryd lle’r darn presennol ar ôl i’r Trysorlys gyhoeddi bod 3% o’r rhai sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, sef dros 45 miliwn, yn rai ffug.

Mae’r darn punt yn seiliedig ar y darn tair ceiniog, sef y darn cyntaf i ddangos llun o’r Frenhines Elizabeth II.

Bydd y darn newydd yn cael ei gyflwyno yn 2017.