Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague - gwrthod galwad cyfreithwyr hawliau dynol
Mae carfan o gyfreithwyr hawliau dynol wedi cyflwyno cwyn swyddogol yn erbyn Llywodraeth Prydain i’r Llys Troseddol Rhyngwladol.

Maen nhw’n galw am ymchwiliad i droseddau rhyfel honedig gan luoedd arfog Prydain yn Irac rhwng 2003 a 2008.

Ymysg y rhai sy’n cael eu henwi yn y ddogfen 250 tudalen mae pennaeth byddin Prydain, y Cadfridog Syr Peter Wall, y cyn-ysgrifennydd amddiffyn Geoff Hoon a’r cyn-weinidog amddiffyn Adam Ingram.

Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at achosion mwy na 400 o Iraciaid, gyda honiadau bod carcharorion wedi dioddef llosgiadau, siociau trydan, bygythiadau i’w lladd a “dirmyg diwylliannol a chrefyddol”.

Yn ôl y cyfreithwyr, y rhai sy’n bennaf gyfrifol am y troseddau honedig yw unigolion sydd ar frig y fyddin a chyfundrefn wleidyddol Prydain.

Ymateb William Hague

Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague yn gwrthod honiadau’r cyfreithwyr, gan ddweud nad oes angen i’r Llys Troseddol Rhyngwladol ymchwilio i’r honiadau.

“Mae ymchwiliadau eisoes naill ai wedi cael eu gwneud i honiadau o’r fath neu’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae rhai achosion o gam-drin sydd wedi cael eu cydnabod ac ymddiheuriadau a iawndal wedi cael eu talu’n briodol.

“Ond mae’r Llywodraeth a’r lluoedd arfog wedi bod yn glir eu bod nhw’n gwrthod yn llwyr unrhyw honiadau o gam-drin systematig gan luoedd arfog Prydain.

“Mae lluoedd arfog Prydain yn cynnal safonau uchel a nhw yw’r lluoedd arfog gorau yn y byd.”