Cerith Rhys Jones
Yn y diweddara’ ym Mlog Gwleidyddiaeth Golwg360 Cerith Jones, myfyriwr trydedd flwyddyn mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n edrych nôl ar gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth.

Bu aelodau Plaid Cymru’n cwrdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, benwythnos diwethaf ar gyfer eu cynhadledd flynyddol. Dyma, yn ôl pob sôn, oedd y gynhadledd gyda’r mwyaf o bobl yn ei mynychu ers sawl blwyddyn.

Fel y gellir disgwyl, wedi buddugoliaeth y Blaid yn isetholiad Ynys Môn ddechrau mis Awst, roedd i’r gynhadledd hon awyrgylch egnïol a chadarnhaol iawn, gyda’r cynrychiolwyr i gyd yn edrych ymlaen at y blynyddoedd rhwng nawr ac etholiad nesaf y Cynulliad yn 2016.

Llwyfan cynta’ i Rhun

Sôn am Fôn, dyma oedd cyfle cyntaf aelodau’r Blaid o ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan Aelod Cynulliad newydd y Blaid ar Fam Cymru, y cyn-newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth AC.

Cafodd Mr ap Iorwerth yrfa ddisglair fel gohebydd gwleidyddol gyda’r BBC, ond trodd ei gefn ar yr yrfa honno yn gynharach eleni i geisio am enwebiad y Blaid ar gyfer yr isetholiad ar ôl i gyn-arweinydd Plaid Cymru a chyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones ymddiswyddo er mwyn mynd i weithio gyda Pharc Gwyddoniaeth Menai.

Yn ystod ei araith, bu Mr ap Iorwerth yn trafod rhai o gyflawniadau Plaid Cymru gan gynnwys, wrth gwrs, y cyfnod pan oedd Plaid Cymru’n rhan o lywodraeth glymbleidiol Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011, pan oedd ei ragflaenydd fel AC Ynys Môn yn ddirprwy i Rhodri Morgan, ac yn ddiweddarach Carwyn Jones.

Soniodd fod aelodau Plaid Cymru a’r sawl sy’n dewis pleidleisio dros y Blaid yn gwneud oherwydd eu bod yn barod i dorchi llewys a mynd i’r afael â’r problemau y mae Cymru’n ei wynebu.

Talodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid dros Ynys Môn, deyrnged i’w ragflaenydd Ieuan Wyn Jones, gan ddweud ei fod wedi dangos sut beth ydi Plaid Cymru mewn llywodraeth genedlaethol – sut mae Plaid Cymru’n gallu torchi llewys a mynd i’r afael â rhai o wir broblemau Cymru, a sut mae’r Blaid yma’n barod i gymryd camau dewr ac arloesol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol.

Ychwanegodd mai nod y Blaid yn awr yw ‘trawsffurfio’ Cymru a gwneud hynny trwy fod yn llywodraeth fwyafrifol wedi’r etholiad nesaf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, gyda Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, fel Prif Weinidog.


Araith yr arweinydd

Araith Ms Wood oedd uchafbwynt y Gynhadledd i nifer o’r cynrychiolwyr. Yn ystod ei haraith, fe farnodd Leanne Wood lywodraeth bresennol Cymru, dan arweiniad Carwyn Jones, am ei ‘thrahauster’ a’i ‘hymfoddhad’. Tynnodd sylw arbennig at yr hyn a alwodd yn ‘fethiannau’ o ran y Gwasanaeth Iechyd a’r gyfundrefn addysg.

Soniodd Ms Wood am yr hyn a alwodd yn ‘ffars’ o’r cyn-Weinidog Addysg Leighton Andrews AC, aelod presennol y Rhondda, yn ymddiswyddo oherwydd iddo ddod i’r amlwg ei fod wedi protestio yn erbyn un o bolisïau ei adran ef ei hun.

Roedd Ms Wood wedi cyhoeddi mewn darlith i Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn gynharach eleni y byddai’n brwydro i ennill sedd etholaethol y Rhondda yn hytrach na’i sedd ranbarthol bresennol yng Nghanol De Cymru yn yr etholiadau nesaf.

Cafwyd nifer o gyhoeddiadau polisi yn ystod araith Ms Wood hefyd. Cyhoeddodd fwriad Plaid Cymru i sefydlu cwmni cyhoeddus hyd braich – Ynni Cymru / Energy Wales – a fydd yn prynu egni ar brisoedd cyfanwerthol ac yn gwerthu’r egni hwnnw i bobl yng Nghymru er eu budd nhw. Pwrpas gwneud hyn, yn ôl Leanne Wood, fydd sicrhau tegwch i bobl Cymru.

Fe gyhoeddodd hefyd y bydd Plaid Cymru’n sicrhau y caiff yr iaith Gymraeg ei hystyried pan ddaw hi at gynllunio lleol, a chyhoeddodd fwriad y Blaid i weithio i atal yr arfer o anfon hawlwyr budd-daliadau nad yw Lloegr yn dymuno eu cadw i fyw yng Nghymru, yn ogystal â’r bwriad i ail-gyflwyno rheoli rhenti gyda’r amcan o gadw prisoedd yn isel.

Treth ar ddiod felys

Ei chyhoeddiad mawr arall oedd y bydd Plaid Cymru’n codi ardoll o hyd at 20c ar bob 100ml o ddiodydd pop. Prif bwrpas gwneud hyn, dywed Ms Wood, fydd gwneud Cymru’n le mwy iachus, ond y caiff yr arian a goder gan yr ardoll ei wario ar gyflogi 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru.

Cafodd y syniad hwn ei farnu’n arw gan Blaid Lafur Cymru, a roddodd yr enw ‘#poptax’ i’r syniad ar Twitter, ac a ddywedodd y byddai’n rhaid i bawb yng Nghymru yfed 135L o ddiodydd pop y flwyddyn er mwyn codi’r £85 miliwn y dywedant y byddai ei angen er mwyn ariannu’r 1,000 o feddygon newydd hynny.

Ar y llaw arall mynnodd y cyn-Aelod Seneddol Adam Price, sy’n ymgeisydd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr at etholiad y Cynulliad yn 2016, taw ond £50-60 miliwn y byddai ei angen.

Dywedodd Leanne Wood AC:

Mae nod Plaid Cymru’n syml: rydym yn ymroddedig i arwain Llywodraeth nesaf Cymru fel ein bod yn gallu datblygu Cymru, fel ein bod yn gallu gwella’r economi, fel ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain, fel bod gan Gymru lywodraeth sydd bob tro – beth fethu – yn dodi Cymru’n gyntaf. Gwyddwn fod Cymru’n well na hyn, ac ie, ein breuddwyd, ryw ddydd, yw Cymru annibynnol; nid annibyniaeth er ei phwrpas ei hun ond fel y gallwn fod y genedl yr ydym yn dymuno bod.

Un o arwyddeiriau’r gynhadledd hon oedd bod Plaid Cymru’n barod i arwain Llywodraeth nesaf Cymru. Ond cofiwch fod tair blynedd eto cyn i’r etholiad nesaf ddigwydd, felly mae gan aelodau’r Blaid amser hir i aros nes eu bod hyd yn oed yn agos at gael Leanne Wood fel Prif Weinidog.

Polisi, nid rhethreg

Yn sicr, roedd yna deimlad gwahanol i’r Gynhadledd hon na chynadleddau cynt. Yn flaenorol, mae cynadleddau wedi tueddu canolbwyntio ar lawer o rethreg, ac mae’r cynadleddau mwyaf diweddar ers etholiad Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru wedi bod yn gyfle iddi hi gyflwyno ei hun fel gwleidydd sy’n dymuno bod yn Brif Weinidog.

Ond, roedd y Gynhadledd hon yn un llawn polisi – nid yn unig o ran y cyhoeddiadau a wnaed gan Ms Wood ond hefyd o ran y trafodaethau oedd yn digwydd rhwng y sawl a oedd wedi mynychu’r digwyddiad deuddydd.

Yr hyn a oedd yn amlwg yn ystod y Gynhadledd oedd, oherwydd y syniadau a gyflwynwyd gan Leanne Wood ac eraill, ac oherwydd bod gan y Blaid griw o ymgeiswyr ar draws Cymru sydd eisoes wedi dechrau gweithio ar eu hymgyrchoedd, bod aelodau Plaid Cymru’n teimlo fod ennill mwyafrif, neu o leiaf, ennill y cyfle i arwain Llywodraeth Cymru wedi 2016 yn bosibilrwydd go iawn.

Gallwch ddilyn Cerith ar Twitter ar @cerithrhys.