David Cameron
Mae disgwyl i David Cameron gyhoeddi heddiw y bydd yn drosedd yng Nghymru a Lloegr i bobl fod a phornograffi troseddol yn eu meddiant.

Fe fydd y Prif Weinidog hefyd yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer deddfau newydd er mwyn ei gwneud yn anoddach i gael mynediad at fideos ar-lein sy’n cynnwys delweddau anweddus o blant.

Bydd hefyd yn cyhoeddi cynlluniau i flocio pornograffi ar-lein a bydd defnyddwyr y rhyngrwyd yn cael dewis a ydyn nhw am dderbyn pornograffi ar eu cyfrifiaduron.

Daw’r camau diweddaraf yn dilyn achosion diweddar, fel Mark Bridger a lofruddiodd April Jones ym Machynlleth, a Stuart Hazel, a  lofruddiodd Tia Sharp, ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod wedi bod yn gwylio delweddau anweddus o blant cyn cyflawni’r troseddau.

Mewn araith emosiynol, mae disgwyl i David Cameron rybuddio bod mynediad at bornograffi ar-lein yn cael “effaith ddinistriol ar blentyndod” ac fe fydd yn mynnu bod cwmnïau mawr fel Google, Bing a Yahoo!  yn gweithredu yn erbyn cynnwys delweddau anweddus o blant.

Fe fydd hefyd yn galw am weithredu gan rieni, cwmnïau’r rhyngrwyd a thechnoleg, ysgolion ac elusennau.