Mae’r diwydiant papurau newydd wedi gwrthod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer rheoleiddio’r wasg ac wedi cyhoeddi ei gynlluniau ei hun ar gyfer Siarter Brenhinol i greu trefn annibynnol newydd o hunanreolaeth.

Mae cyhoeddwyr sy’n cynrychioli papurau newydd cenedlaethol a lleol a’r diwydiant cylchgronau yn bwriadu gwneud cais am Siarter a fyddai, meddai nhw, yn cwrdd â’r  argymhellion a wnaed yn Adroddiad Leveson i safonau’r wasg y llynedd ond heb ymyrraeth y Llywodraeth.

Mewn datganiad gan y corff sy’n cynrychioli’r wasg, y Newspaper Society, dywedodd nad oedd cefnogaeth ymhlith y wasg yn y DU i’r Siarter Brenhinol a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar 18 Mawrth, a’i fod wedi cael ei feirniadu gan amryw o sefydliadau rhyngwladol sydd o blaid rhyddid y wasg.

Maen nhw’n dadlau bod nifer o’r argymhellion yn “anweithredol” ac yn rhoi gormod o ryddid “i wleidyddion ymyrryd” yn y broses o reoleiddio’r wasg.

Fe fyddai eu hargymhellion nhw yn ffordd “ymarferol” o gyflwyno argymhellion Leveson, mewn modd sy’n cael ei dderbyn gan y diwydiant, a heb beryglu rhyddid barn.

Mae’r argymhellion yn cynnwys sancsiynau llym a fyddai’n caniatáu’r rheoleiddiwr newydd i gyflwyno dirwyon o hyd at £1 miliwn am dramgwyddo; rhoi lle blaenllaw i ymddiheuriadau am gamgymeriadau; ac annibyniaeth lwyr o’r diwydiant a gwleidyddion.

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn rhoi’r cyfle i ddarllenwyr papurau newydd a chylchgronau gael dweud eu dweud am gynlluniau’r diwydiant.

Mae’r ymgyrch Hacked Off wedi cyhuddo’r diwydiant papurau newydd o wrthod argymhellion Leveson ac wedi ceisio atal unrhyw reolaeth o’r wasg a fyddai’n diogelu’r cyhoedd rhag y math o dramgwyddo a arweiniodd at Ymchwiliad Leveson yn y lle cyntaf.