Cafodd cytundeb trawsbleidiol ynglŷn â rheoli’r wasg sêl bendith Aelodau Seneddol yn y Senedd neithiwr.

Fe fydd y mesurau yn golygu bod barnwyr yn cael cyflwyno dirwyon yn erbyn papurau newydd sy’n gwrthod ymaelodi a’r corff newydd.

Bwriad y mesurau, a gafodd eu hargymell gan yr Arglwydd Ustus Leveson yn ei adroddiad ar safonau’r wasg, yw ceisio annog cyhoeddwyr i gyd-weithio gyda’r corff rheoleiddio newydd.

Daeth y cytundeb yn dilyn trafodaethau yn hwyr nos Sul rhwng David Cameron, arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg. Bydd Siarter Frenhinol yn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.

Ond mae’r diwydiant papurau newydd wedi mynegi pryder am y cytundeb newydd.  Mewn datganiad, dywedodd Associated Newspapers, News Internation, y Telegraph Media Group a chyhoeddwyr yr Express, Northern & Shell, y byddan nhw’n cael cyngor cyfreithiol cyn penderfynu a fyddan nhw’n ymuno a’r corff rheoleiddio newydd.