Does dim gobaith dod o hyd i saith morwr yn fyw ar ôl damwain ym Môr y Gogledd.

Dyna farn  gwasanaethau achub Yr Iseldiroedd wrth iddyn nhw ailddechrau chwilio am y dynion.

Fe gafodd pedwar o bobol eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dwy long neithiwr ac mae 13 yn cael triniaeth mewn ysbyty am effaith yr oerfel a sioc.

Fe fu hofrenyddion a llongau yn chwilio am y morwyr coll cyn rhoi’r gorau i’r ymdrech tua 2 o’r gloch y bore.

  • Roedd y dynion ar long o’r enw Baltic Ace a suddodd yn gyflym ar ôl taro’n erbyn llong nwyddau, y Corvus J.
  • Roedd y Corvus J yn mynd o Wlad Belg i’r Ffindir a’r Baltic Ace yn cario ceir o’r Alban i Wlad Belg.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 40 milltir o lannau de’r Iseldiroedd