Mae dynes wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mirmingham.

Cafodd tri o bobl eraill eu hanafu yn y tân yn Heol Speedwell, Edgbaston tua 7yb bore ma.

Cafodd dyn a tair dynes eu cludo i’r ysbyty ond bu farw un o’r merched yn ddiweddarach bore ma.

Dywedodd Heddlu’r Midlands eu bod yn trin y tân fel un amheus ac mae swyddogion fforensig yn archwilio’r safle ar hyn o bryd.