Mae Heddlu
Canol Llandrindod (Penny Mayes CCA 2.0)
Dyfed-Powys wedi cadarnhau heddiw eu bod yn ymchwilio i dân amheus yn Llandrindod lle cafodd dynes a dau o blant eu hachub.

Fe gyneuodd y tân yng nghyntedd tŷ sydd ar ben rhes a dim ond y drws a gafodd ddifrod yn y pen draw. Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw ychydig wedi pump fore heddiw.

Fe lwyddodd y tri a oedd yn y tŷ a’u hanifeiliaid anwes i ddianc yn ddianaf ond mae’r heddlu wedi dechrau ymchwilio ar y cyd gyda Gwasanaeth tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Maen nhw’n apelio am dystion ac yn gofyn i bobl oedd yn yr ardal leol yn ystod amser y digwyddiad ac a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â’r Heddlu 101 neu gyda Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.

Mae’r Heddlu’n dweud bod achosion fel hyn yn “hynod brin”.