Llys Ynadon Caerffili
Fe fydd dyn 26 oed yn ymddangos yn y llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ddarpar-fam ifanc, Nikitta Grender.

Fe  fydd Carl Whant o Gasnewydd hefyd yn cael ei gyhuddo o ddinistrio bywyd y plentyn oedd yng nghroth y ferch 19 oed.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff ar 5  Chwefror yn Llyswyry – roedd wedi cael ei thrywanu ddwywaith a’r fflat wedi ei roi ar dân.

Fe fydd Carl Whant, sy’n gyn-filwr, yn ymddangos gerbron ynadon Caerffili ar gyfer achos traddodi.