Fe fuodd dyn farw bore ma ar ôl gwrthdrawiad â thrên ger Bethel, Bodorgan.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân eu galw  toc cyn 5.30am bore ma.

Roedd y dyn eisoes wedi marw.

Mae ymchwiliadau’n parhau ac mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn ymdrin â’r mater.