Mae dyn 42 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 34 oed a phlentyn dwy oed, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Daethpwyd o hyd i gyrff Suzanne Jones a’i mab William mewn tŷ ger Tremadog yng Ngwynedd, brynhawn ddydd Gwener.

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r marwolaethau. Dydyn nhw ddim wedi enwi’r dyn.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn “digwyddiad yn y cartref”.

Mae aelodau’r teulu yn cael cefnogaeth swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.

Dyw’r heddlu heb adnabod y cyrff yn ffurfiol eto ac mae ystafell digwyddiadau difrifol wedi ei sefydlu.

Dywedodd cymdogion fod gan Suzanne Jones hefyd ddwy ferch, sef Antonia and Amy.

“Roedd Susi wedi ei geni yn y tŷ yma ac roedd hi’n ferch hyfryd ac yn gweddu i’r gymuned,” medai David Thomas, 66, o bentref Penmorfa gerllaw.

“Allech chi ddim meddwl am fam lawn-amser well i’r plant.”

Dywedodd Arthur Edwards, cyn-weithiwr ffatri sydd bellach wedi ymddeol, ac sy’n byw dau ddrws i lawr o dŷ teras Suzanne Jones, ei fod wedi ei frawychu gan y newyddion.

“Roedden nhw’n cadw eu hunain i’w hunain fel y mae pobol yn tueddu i’w wneud y dyddiau hyn,” meddai Arthur Edwards, 76 oed.

“Roedd William yn hogyn bach mor hapus.”

Mae cymdogion wedi gosod blodau y tu allan i ddrws y ffrynt.