Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn siop Argos yng Nghanolfan siopa Castle Court, Caerffili.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn ystod oriau mân 20 Ionawr, 2011.

Fe wnaeth y lladron dorri i mewn i’r siop a dwyn swm sylweddol o emwaith.

Mae’r Heddlu’n ymchwilio’r digwyddiad. Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd bobl neu gerbydau amheus yn yr ardal – gysylltu â Heddlu Gwent ar 01633 838111 neu’n ddienw â Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.