Mae enw’r dyn a gafodd ei lofruddio yn Ynysowen ger Merthyr wedi cael ei gyhoeddi ac mae’r ymchwiliad i’w farwolaeth yn parhau.

Fe gadarnhaodd yr heddlu mai Derek Mahoney oedd y gŵr a gafwyd yn farw yn y stryd yn ardal Mount Pleasant fore dydd Gwener diwetha’.

Roedd yn 61 oed ac fe gafodd dyn 47 oed ei arestio’r diwrnod hwnnw a’i ryddhau erbyn nos Sadwrn.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae eu hymchwiliadau i’r farwolaeth yn parhau ac maen nhw’n apelio am dystion a welodd Derek Mahoney rhwng 6 nos Iau a saith fore Gwener.

“Mae gyda ni dîm llawn o swyddogion sy’n gweithio’n galed i geisio deall beth oedd amgylchiadau marwolaeth Derek Mahoney,” meddai’r swyddog sy’n arwain yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd, Ritchie Jones.