Mae Heddlu Thames Valley yn dweud iddyn nhw arestio pedwar o gefnogwyr tîm pêl-droed Caerdydd am droseddau hiliol yn dilyn gêm yn erbyn Reading yng Nghwpan FA Lloegr ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 26).

Mae’r pedwar, oedd wedi’u harestio ar amheuaeth o “sarhad hiliol” wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad ac maen nhw’n dod o Gaerffili, Crughywel a’r Fenni.

Maen nhw’n 15, 16, 21 a 24 oed.

Mae Heddlu Thames Valley yn cydweithio â Heddlu’r De a’r ddau glwb pêl-droed wrth i’r ymchwiliad barhau.