Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain angheuol ger Abertawe nos Iau (Hydref 10).

Fe fu tri char – MG ZR lliw arian, Toyota Celica lliw arian a BMW 1 du – mewn gwrthdrawiad ar yr A4217 ar Heol Pentreguinea yn ardal St Thomas tua 10.30yh nos Iau.

Bu farw gyrrwr y car  MG ZR yn dilyn y gwrthdrawiad. Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu’r cerbydau’n cael eu gyrru cyn y digwyddiad, neu sydd â fideo “dash cam” a allai helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900375723.