Mae pumed person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth llanc ifanc yn y Barri.

Fe gafodd corff Harry Baker, 17, o Gaerdydd ei ganfod yn ardal y dociau am tua 5.50 fore Mercher (Awst 28).

Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi arestio dyn, 32, o Gaerdydd ar amheuaeth o’i lofruddio.

Mae tri dyn arall, 33, 36 a 47, o’r Barri, yn ogystal â dynes, 38, o Sir Gaerfyrddin, yn dal i fod yn  ddalfa.

Ychwanega’r heddlu fod rhai mannau o’r ardal yn dal i fod ynghau wrth iddyn nhw barhau gydag ymholiadau.