Mae dyn wedi marw ar ôl mynd yn sâl yng ngŵyl gerddoriaeth Reading Festival.

Dywed yr heddlu bod marwolaeth y dyn, sydd heb gael ei enwi’n ffurfiol, yn cael ei drin fel un anesboniadwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal ger un o lwyfannau’r ŵyl gerddoriaeth yn Berkshire ychydig cyn 11 o’r gloch nos Sadwrn (Awst 24)

Aed â’r dyn i Ysbyty Brenhinol Berkshire tua 11.40 o’r gloch, ond bu ddoe (dydd Sul, Awst 25).

Mae perthynas agosaf y dyn wedi cael ei hysbysu, meddai Heddlu Thames Valley.

“Rydyn ni’n ymchwilio i amgylchiadau sut aeth yn sâl ac mae ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd,” meddai rheolwr heddlu Reading Festival.

“Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth i deulu’r dyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.”