Mae dyfarnwr criced wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan bêl yn ystod gêm yn Sir Benfro y mis diwethaf.

Cafodd John Williams, 80, ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad yn ystod gêm rhwng clybiau Penfro ac Arberth ar Orffennaf 13.

Mewn neges ar y wefan Twitter, mae Clwb Criced Sir Benfro wedi cadarnhau bod y dyfarnwr wedi marw y bore yma (dydd Iau, Awst 15).

“Newyddion trist y bore yma ynglŷn â’r dyfarnwr John Williams,” meddai’r datganiad.

“Bu farw John y bore yma gyda’i deulu wrth ei ochr. Mae ein meddyliau ni oll yma yng Nghriced Sir Benfro gyda Hilary a’r bechgyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.”