Mae dyn sy’n cael ei gyhuddo o ladd dynes feichiog a’i mab bach yn Llundain, wedi ymddangos gerbron y llys heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15).

Mae Aaron McKenzie, 25, yn cael ei gyhuddo o drywanu Kelly Mary Fauvrelle, 26, i farwolaeth yn ei thŷ yn ardal Thornton Heath yn ne Llundain ar Fehefin 29.

Mae hefyd yn cael ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am farwolaeth ei baban, a gafodd ei enw yn ‘Riley’ gan berthnasau ar ôl iddo gael ei eni yn fuan wedi’r digwyddiad. Bu farw yn yr ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Aaron McKenzie o ardal Peckham ei arestio yr wythnos ddiwethaf, cyn ymddangos gerbron Llys Ynadon Camberwell lle mae’n wynebu cyhuddiadau eraill hefyd.

Doedd dim gofyn iddo gyflwyno ple i’r cyhuddiadau heddiw, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron yr Old Bailey ddydd Mercher (Gorffennaf 17) ar gyfer gwrandawiad mechnïaeth.

Bydd gwrandawiad arall yn yr un llys ar Awst 12.