Raoul Moat (llun heddlu)
Fe benderfynodd rheithgor bod y llofrudd Raoul Moat wedi ei ladd ei hun ar ôl bod ar ffo rhag yr heddlu.

Er gwaetha’ ymdrechion yr heddlu i’w rwystro, roedd wedi ei saethu ei hun yn ei ben ac wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Newcastle yn fuan wedyn.

Fe glywodd y cwest fod heddlu wedi saethu math newydd o ddrylliau Taser at y cyn fownsar ond nad oedd y rheiny wedi cael unrhyw effaith arno.

Ar brawf

Dim ond ar brawf yr oedd y drylliau ar y pryd a doedd y plismyn erioed wedi eu defnyddio – na’u gweld – cyn hynny.

Ond mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu eisoes wedi penderfynu nad oedd yr un o’r swyddogion ar fai am farwolaeth Moat a oedd wedi saethu ei gyn gariad, wedi lladd ei phartner newydd hi ac wedi dallu plismon yn ystod sbri saethu ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ar ôl bod ar ffo am ddyddiau, roedd yr heddlu wedi ei gornelu yn nhref fechan Rorhtbury yn Northumberland ac roedd ef a nhw wedi wynebu ei gilydd am tua chwech awr cyn i’r saethu ddigwydd.