Mae Rhybudd Melyn wedi’i gyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru yn ystod y dydd a thrwy gydol y nos heno wrth i Storm Helene agosáu.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn credu na fydd y storm yn achosi unrhyw berygl i fywyd, ond maen nhw’n rhybuddio trigolion mewn ardaloedd arfordirol i fod yn ofalus.

Bydd y Rhybudd Melyn mewn grym o 6yh heddiw tan 8yb yfory, gyda disgwyl i wyntoedd gyrraedd cyflymder rhwng 55 a 65 milltir yr awr.

Mae’r rhybudd ar gyfer y rhan fwya’ o Gymru, yn enwedig Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe a Bro Morgannwg.