Mae bardd o Geredigion wedi cael ei benodi’n fardd preswyl cyntaf Heddlu Dyfed-Powys, a hynny er mwyn nodi 50 mlynedd ers i’r llu gael ei sefydlu.

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys ei sefydlu yn 1968, ac er mwyn dathlu’r garreg filltir hon eleni, mae’r llu wedi comisiynu’r bardd a’r Prif Lenor, Eurig Salisbury, i sgrifennu cerddi dathlu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Er nad yw’r digwyddiadau a fydd yn dathlu’r pen-blwydd wedi’u cadarnhau eto, mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Mark Collins, yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen” i glywed cerddi gan y bardd yn ystod y “flwyddyn hanesyddol” nesaf.

“Cyfle cyffrous”

Yn ôl y bardd ei hun wedyn, mae’n credu bod y cyfle hwn yn “beth gwych” i farddoniaeth, ac mae’n gweld ei rôl newydd fel ymestyniad i’r elfen gymdeithasol sy’n perthyn i farddoniaeth Gymraeg.

“Dw i’n credu ei fod e’n beth gwych i farddoniaeth,” meddai wrth golwg360, “oherwydd bod e’n dangos bod barddoniaeth yn gallu mynd i bob man, ac yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer pob math o achlysuron.”

“Dw i’n meddwl ei fod yn beth da hefyd i’r Gymraeg hefyd… Mae’n dod â sylwi i farddoniaeth ac i’r Gymraeg, gan ddangos pa mor bwysig yw’r Gymraeg i’r cymunedau, a hefyd pa mor bwysig yw’r Gymraeg i’r heddlu.”

Pontio’r gymuned a’r heddlu

Wrth edrych ymlaen am y flwyddyn ei hun, dyw Eurig Salisbury “ddim yn siŵr” pa drywydd y mae am ei ddilyn, heblaw am y ffaith ei fod am geisio creu “pont” rhwng y gymuned a’r heddlu.

“Dw i’n gweld hwn fel pontio, bron, rhwng dau beth, sef rhwng yr heddlu a’r gymuned,” meddai eto. “Ond nid bo nhw’n ddau beth cwbwl ar wahân, beth bynnag – maen nhw’n rhan o’i gilydd.”