Mae dyn wedi cael ei holi ar ol i’r heddlu ddod o hyd i 15 planhigyn canabis mewn tŷ yn Llangefni.

 

Fe gafodd yr heddlu gwarant i archwilio’r tŷ yn ardal Pencraig tua 1:30yp ddydd Sul, (Ionawr 28), lle daethon nhw o hyd i’r planhigion canabis a nifer o ffonau symudol.

Cafodd dyn lleol, sydd yn ei 40au, ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o gynhyrchu’r cyffur anghyfreithlon.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru wbod y dyn bellach wedi’i “ryddhau o dan ymchwiliad”.