Mae cyd-chwaraewyr pêl-droed ymysg y rhai sydd wedi bod yn rhannu negeseuon o gefnogaeth i’r myfyriwr yn Aberystwyth sydd yn yr ysbyty’n ddifrifol wael ers ymosodiad dros y Sul.

Mae Ifan Owens o Gaerdydd, myfyriwr ail flwyddyn yn y coleg ger y lli, wedi bod yn yr ysbyty ers y digwyddiad yn Stryd Uchel y dref am oddeutu 2.20yb ddydd Sul (Ionawr 14).

Fe gafodd ei gludo yn fuan wedyn i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn un o hofrenyddion y gwasanaeth Chwilio ac Achub.

Teyrngedau

Ymhlith y teyrngedau sydd wedi cael ei roi Ifan Owens ar y cyfryngau cymdeithasol, mae negeseuon o gefnogaeth gan dimau pêl-droed yr oedd o’n aelod ohonyn nhw yn ardaloedd Aberystwyth a Chaerdydd.

“Sioc mawr (sic) i bawb oedd clywed fod un o’n chwaraewyr @ifanOwens wedi cael ei ymosod arno yn oriau man bore ddoe. Meddwl amdanat met, ac yn gobeithio am welliant cyflym!”, meddai tîm pêl-droed Cymdeithas y Geltaidd, Aberystwyth.

“Dymuniadau gora a gwellhad buan i @ifanowens, yn ein meddylia ni gyd @BaldGog a’r teulu”, meddai Clwb Cymric wedyn, sef clwb pêl-droed Cymry Cymraeg Caerdydd.

Apêl newydd

Yn dilyn y digwyddiad, fe gafodd tri dyn – 20, 23 a 25 oed – eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, a does dim cadarnhad eto eu bod nhw wedi cael eu rhyddhau o’r ddalfa.

Ond neithiwr (dydd Llun), fe gyhoeddodd  Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n gwneud apêl newydd am dystion i’r digwyddiad, gan ychwanegu bod Ifan Owens yn parhau mewn “cyflwr difrifol” yn yr ysbyty.

Maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.