Mae Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer yn Abertawe wedi canslo’r Oedfa fore heddiw yn dilyn ymosodiad yn y ddinas neithiwr (Rhagfyr 23).

Mae’r eglwys ar Stryd Ebenezer yn agos i’r Stryd Fawr, lle digwyddodd ymosodiad difrifol toc ar ôl 8.40pm.

Mae lle i gredu bod y sawl sydd wedi’i amau – dyn 29 oed – wedi rhedeg i gyfeiriad yr eglwys yn dilyn yr ymosodiad, ac mae’r heddlu’n dal yn yr ardal wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae dyn 39 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys.

Mae rhannau o’r Stryd Fawr ynghau o hyd i’r cyhoedd, ond mae’r eglwys yn gobeithio y bydd modd cynnal oedfa hwyrol am 5pm heddiw.