Mae’r heddlu yn Nuneaton yng nghanolbarth Lloegr wedi’u galw i barc siopa yn dilyn adroddiadau bod dyn â dryll yn cadw gwystlon.

Mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i gadw draw am y tro.

Mae lluniau ar wefannau cymdeithasol yn dangos yr heddlu arfog ar safle Bermuda Park y dref.

Cadarnhaodd Heddlu Swydd Warwick eu bod nhw’n ymdrin â’r digwyddiad, a bod dau aelod o staff y cwmni bowlio deg y tu fewn i’r adeilad o hyd.