Mae dynes 23 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen 18 mis oed ar ôl iddo ddisgyn i’w farwolaeth o chweched llawr bloc fflatiau yn Bradford.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad am 5.10 brynhawn ddoe yn dilyn adroddiadau bod y babi wedi cael anafiadau difrifol, ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn rhoi cefnogaeth i’r teulu, ac mae’r ddynes a gafodd ei harestio’n cael asesiad meddygol yn y ddalfa.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad, ac maen nhw wedi apelio am dystion wrth i’r ymchwiliad barhau.