Katrina Evemy, (Llun: trwy law Heddlu Dyfed Powys)
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes wedi iddo ladd ei gariad tra oedd plentyn y ddynes yn bresennol.

Bu farw Katrina Evemy, 19, yn yr ysbyty chwe diwrnod wedi iddi gael ei thrywanu yn ei llygaid, gwddf a’i phen gan ei chariad, Dylan Harries.

Roedd Dylan Harries, 22 oed, wedi ymosod ar Katrina Evemy wedi iddo ddarganfod ei bod wedi cusanu dyn arall wythnosau’n gynt.

Gwadodd y cyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ond fe’i cafwyd yn euog  gan reithgor ddydd Gwener ddiwethaf (Hydref 13).

Gwelodd y llys fideo camera cylch cyfyng yn dangos Dylan Harries yn teithio â chyllell i dŷ Katrina Evemy yn Llanelli ar Ebrill 13.

Mae ef yn honni mai dieithryn wnaeth ymosod ar Katrina Evemy, a hynny er bod tystiolaeth feddygol yn profi ei fod wedi bod yn bresennol yn ystod yr ymosodiad.

Bydd Dylan Harries dan glo am o leiaf 27 mlynedd.